mynegodd amryw o'r brodyr mai buddiol fyddai cael cyfarfod eto yn yr un llanerch, a hyny i ddau amcan,—yn gyntaf, casglu cymaint ag a ellir o weddillion anghyhoeddedig am Goronwy; yn ail, cynorthwyo ein gilydd i astudio ei hanes a'i weithiau. Wedi trefnu rhaglen ar gyfer y "seiat gyffredinol," yr oeddym dan orfod i ymwahanu—pawb i'w ffordd ei hun. Anhawdd oedd ymado: eilwaith a thrachefn safem i edrych ar y ceinder oedd o'n cwmpas, ac i wrando ar ddeunod clir y gôg o'r glasfryn gerllaw. Gwyddem fod ei thymhor canu bron ar ben. Tybed ei bod wedi dod i offrwm ei chân ddiweddaf uwchben bro Goronwy, cyn myned, fel yntau, i wlad estronol!
Ni faethodd gwlad glodadwy
Na daear Mon awdwr mwy:
Yno coffeir ei annedd,
Ow! 'mha fan y mae ei fedd?
Wedi ysgwyd llaw â chyfeillion Pentraeth esgynasom i'r cerbyd, a dychwelasom tua Llangefni ar hyd ffordd arall. Ar y daith cawsom ymddiddan difyr iawn am hen bobl a hen bethau, nid amgen, John Bodvel, Rhys. Ddu o'r Ddreiniog, Robert Morgan, person Llanddyfnan, Llech Talmon, &c. Disgynasom ar gyfer Rhosymeirch, ac aethom i weled bedd William Pritchard, Clwchdyrnog, yr Ymneillduwr cyntaf yn Mon. Bu y gwron farw yn 1773, ac yn mhen can' mlynedd dodwyd colofn ardderchog ar "fan fechan ei fedd." Hanes hynod sydd i'r gwr hwn. Dilynodd egwyddor drwy barch ac anmharch, ac y mae ei lwch yn gysegredig. Ond y mae cysgodau yr hwyr yn dechreu disgyn ar ein llwybr. Cychwynasom eilwaith tua Llangefni. Llawn oedd y gwrychoedd o flodau'r drain, a hyfryd yn wir oedd eu perarogl. Syllem ar y niwl gwyn yn ymgasglu ar grib yr Eryri, a dwysder yr hwyr yn meddianu yr holl wlad.