Prawfddarllenwyd y dudalen hon
LLYTHYR AT ARLUNYDD.
Camfa'r Cae.
ANWYL GYMRAWD:—
- Disgwyliais dy gwrdd yn yr hen lanerchau cyn hyn. Cerddais finion y Seiont, holais yn yr hen felin, ac edrychais o gwmpas y bont bren—ond yn ofer. Disgwyliwn weled yr umbrella gwyn enfawr hwnw, fel pabell Arabiad, a'r colofnau mwg glasliw yn curlio yn yr awelon. Pa le yr ydwyt? Nid oeddwn yn meddwl ysgrifenu sill heddyw—dim ond yfed yr awel, a syllu ar ddadblygiad cyflym dail a blodau. Ond wedi eistedd am enyd ar y gamfa hon, lle mae dolydd a llanerchau coediog yn ymestyn o'm blaen nes ymgolli yn y pellder y mae yn demtasiwn i mi anfon gair i ddweyd wrthyt, fel cenad o ladmerydd, fod Anian yn rhoddi arddanghosiad arbenig, y dyddiau diweddaf, o water colours a landscapes, a'i bod yn chwanegu atynt bob bore o'r newydd. Yn ngeiriau prydferth Elfed:—
Mae'r Gwanwyn yn y berllan
Mae'r Gwanwyn ar y ddol;
A swn ei delyn arian
Yn galw'r blodau'n ol.
Dan fys y Gwanwyn tirion
Fe egyr dorau'r dail;
Ac o ffenestri gwyrddion
Mae'r blodau'n holi am haul.
Ac nid ydynt yn holi yn ofer. Y mae'r haul yn gwenu yn serchog drwy ffenestri y blodau, ac yn eu swyno allan yn llu mawr iawn. Y mae pob gwrych a choedlan fel pe yn cystadlu, pwy fydd fwyaf, pwy fydd harddaf i roesawu mis Mai. Yn mysg y coed, dichon mai yr