awyr iach a phur sydd i'w hanadlu yma. Gwelais yn rhywle fod rhanau helaeth o ddinas Llundain (a diau fod dinasoedd eraill yn debyg) heb awyr bur ynddynt drwy gydol y flwyddyn. Beth na roddasai llawer un o breswylwyr afiach, gwyneb-lwyd y selerydd a'r garrets hyny am gael treulio darn diwrnod hafaidd ar y boncyff hwn! Diau fod aml un yn slums Llundain heno yn chwenychu am y pethau yr ydwyf fi a thrigolion yr ardal hon yn eu mwynhau—yn breuddwydio am awyr las, meusydd gwyrddion, gwenau haul, ond nid ydynt yn eu cael. Nid ydym yn haner digon diolchgar am ein cysuron. Da genyf feddwl am ymdrechion clodwiw Dyngarwch i wella sefyllfa y miloedd sydd yn treulio eu bywyd dan amgylchiadau mor anfanteisiol. Ac ni raid myned i Lundain i chwilio am danynt; y mae yn Nghymru ddigonedd o waith yn y cyfeiriad hwn. Pob llwydd i'r gwŷr da sydd, yn y tymor yma, yn trefnu pleser-deithiau i blant tlodion y trefydd i fyned am ddiwrnod i ganol y wlad neu i lan y môr. Bendith arnynt! Yn wir, y mae gweled y pethau bychain yn mwynhau eu hunain yn ddigon o ad-daliad am y drafferth a'r draul i gyd. A da fydd cofio yn amlach am yr hen bobl; y maent hwythau yn caru bod yn blant yn awr ac eilwaith. Yr ydym yn gweled hanes yn y newyddiaduron yn lled aml am Wasanaeth Blodau (Flower Service), pan y cludir pwysïau o bob lliw a llun i'r addoldy. Ond y flower service goreu y gwn am dano ydyw myned âg ambell flodeuglwm i wasgar ei berarog! yn ystafell y claf a'r cystuddiedig, ac un arall i loni ysbryd yr hen wraig dlawd sydd heb weled cae er's blynyddoedd! O mor ddiolchgar ydyw aml un o'r dosbarth hwn am swp o flodau gwylltion! Mae eu gweled a'u harogli yn adgyfodi dyddiau mebyd ger eu bron. Gallai deiliaid yr Ysgol Sul weini llawer o gysur mewn ffordd syml ac esmwyth fel hyn.
Ond er mor ddymunol ydyw y llanerch hon, ni fynwn dra-dyrchafu y wlad ar draul darostwng y dref.