arwerthwr poblogaidd a chymdeithasgar. Y mae awr o'i gwmni yn un o'r pethau goreu i wrthweithio dylanwad y prudd-glwyf. Adroddai stori dda am flaenor Methodus yn myn'd at ryw sgweiar yn Lleyn i ofyn am brydles ar gapel newydd.
"Ydi trigain mlynedd yn ddigon gen ti?" ebai y sgweiar.
"Yr ydech chi yn garedig iawn, syr," ebai'r blaenor, "ond capel Methodus ydi o, cofiwch."
"Wneiff cant o blynyddoedd y tro?" ebai y tir-feddianydd.
"Diolch yn fawr," meddai'r gwladwr, "ond yr yden ni yn meddwl codi capel da iawn, syr,—siort ore rwan."
"Wel, ti cael mil o blynyddoedd, ynte "—
"Rhagorol, syr, yr ydech chi'n ffeind wrtho ni, ond"—
"Ond be?" ebai'r sgweiar, "ydi mil o blynyddoedd ddim yn ddigon? Ti deyd dy amser dy hun yntê."
"Wel, syr, gan ych bod chi mor ffeind, be ddyliech chi, tae'n ni yn ei gael o tan fore yr adgyfodiad?
"All right, John Jones," ebai'r sgweiar, "chi cael o tan y p'nawn hwnnw!"
Dyna, mae'n debyg, y brydles hwyaf ar gapel Methodus a roddwyd erioed.
Ar y llwyfan yr oedd amryw o borthmyn yn cyrchu tua ffair Pwllheli. Yr oedd golwg well-fed arnynt, ac yn bur aml aent i'r ystafelloedd hyny sydd yn cynwys darpariaeth ar gyfer mynych wendid, a deuent allan drachefn, a'u gwynebau mor goched a chrib ceiliog. Heblaw pobl y ffair, yr oedd yno, hefyd, amryw o genhadon hedd. Yn eu plith yr ydoedd yr hynaws ŵr, J. Rogers, B.A. Dywedai ei fod yn mynd i rywle yn Ffestiniog, ac yr oeddwn yn pryderu am ddiogelwch y "tren bach" wrth glywed am yr anturiaeth.
"Pam y mae y tren yma mor hir, deudwch?" ebai rhywun oedd wedi myn'd drwy ei dipyn stoc o amynedd. "O!" meddai gŵr bychan, llygadlym, "ond y