Ynys Enlli yn ymgodi o fynwes y môr. Anaml y gellir sefyll ar lecyn mor fanteisiol i weled arddunedd anian,—y tir pell. Camsyniad dybryd ydyw meddwl mai gwastadedd unffurf, dôf, fel "ceiniog fawr" ydyw gwlad Mon. O honi hi, mewn gwirionedd, y gwelir mawredd y Wyddfa, a'i chwiorydd, yn eu gogoniant. Hawdd genyf gredu ddarfod i Nicander sefyll ar y groesffordd hon lawer pryd ar ei ymdaith, i syllu ar gyrau yr hen wlad, ei anwyl Eifionydd.
Y mae eglwys y plwyf a phentref Llanrhyddlad yn sefyll mewn pellder lled fawr oddiwrth eu gilydd. Yn yr ystyr hwn, y mae mesur o "ddadgysylltiad" wedi cymeryd lle rhyngddynt. Yr oll ellir weled o'r eglwys o ymyl y pentref ydyw darn o'r clochdy pigfain ar gwr ystlys mynydd y Garn. Awn ar hyd ffordd gul, droellog, i gyfeiriad y môr. Yr ydym yn pasio amryw fwthynod a mân ffermdai. Ar y chwith y mae melin wynt—un o neillduolion Mon—a phentref Rhydwyn. Lle neillduedig iawn ydyw hwn, wedi troi ei gefn ar y byd, ond dywedir fod dosbarth arbenig o "deithwyr yn gwybod yn dda am dano, ac yn dod iddo gyda chysondeb os bydd y "gyllideb " yn caniatau. Wedi gado gefail ar ochr y ffordd, yr ydym yn d'od i ymyl y mynydd. Y mae blodau'r grug yn porffori ei lethrau, ac y mae y rhedyn, hwythau, yn dechreu newid eu lliw. Ar lethr craig gwelais ddau lafurwr yn bwyta eu cinio, ac nid oedd argoel diffyg treuliad ar eu galluoedd.
Toc, dyma ni wrth y fynedfa i'r persondy; ar yr ochr gyferbyn y mae yr eglwys a'r fynwent, mewn congl enciliedig, wrth odre y bryn, ac yn ngolwg y môr. Y mae golwg gadarn, lanwedd, ar yr adeilad, ac nid oes brydferthach clochdy yn Ynys Mon. Ac ar fin y fynedfa i'r eglwys, ar y llaw dde, y mae yr hyn y daethom yn un pwrpas i'w weled—bedd Nicander.
Yma y gorwedd ei lwch, o "swn y boen sy yn y byd." Llecyn tawel, distaw; a phell yw y dydd, gallem farnu, pan y daw trybestod rheilffyrdd neu law-weith-