weled rhywun yn rhoi adgyfodiad i rai o ysgrifau Nicander, yn enwedig ei ohebiaethau llenyddol i Gronicl diddan y dyddiau gynt.
II.
DEFFROWYD fi o'm dydd—freuddwyd. Clywais lais rhyw—un o borth y fynwent yn gofyn,—
Oes arnoch chi isio gwel'd yr eglwys? Mi fedra i gael y 'goriad rhag blaen.
"Na, diolch i chi, mae yr hyn y daethum i'w weled heddyw yn y fynwent,—beddrod Nicander. A ydych yn ei gofio ef?"
"Mi glywas am dano, ond 'doeddwn i ddim yn byw ffordd yma pan oedd o yn berson y plwy "—a diflanodd o'm golwg.
Aethum i rodio yn mysg y beddau. Ychydig, mewn cymhariaeth, ydyw nifer y beddfeini a'r colofnau yn y fynwent hon. Y mae yma lawer "twmpath gwyrddlas," heb ddim cofnod i ddweyd hanes y marw. Chwiliais am englynion o eiddo Nicander, ond un yn unig a welais, ar fedd genethig ddeuddeg oed, yr hon fu farw yn 1864, ddeng mlynedd o flaen y bardd. Dyma fe:—
"Dros dro, mae'n huno mewn hedd,—yn dawel
Yn y duoer geufedd;
Daw drwy wyrth o byrth y bedd,
I felus fro gorfoledd."
Yn ymyl mur y fynwent, ar yr ochr sy'n gwynebu y môr, mae beddrod tri o forwyr, y rhai a foddwyd yn mis Tachwedd, 1811. Gerllaw iddynt y mae beddrod cadben llong—yr Osprey, o Lerpwl. Bu yntau foddi ar y noson gyntaf o Ebrill, 1853, tra yn ceisio glanio mewn bad yn y Borthwen. Yr oedd y llong wedi ei rhedeg i lawr yn oriau'r nos gan yr ysgwner Anne & Mary,