y wlad. Ymroddodd i'r gwaith yn yr ysgol ddyddiol nes iddo weled llwyddiant mawr arni, ac y mae ei englynion i "Sian Fach," un o'i ysgoloresau bychain a fu farw yn ieuanc iawn, yn dangos yn eithaf eglur, pa mor ddwfn bynnag oedd serch y plant tuag ato ef, nad oedd ei gariad a'i ymlyniad yntau ynddynt hwy ddim llai,—
ENGLYNION I SIAN FACH.
"Mae brathiad, gnoad egniol,—yng nghiliau
Fy nghalon hiraethol;
Gweld ymysg aelodau'n hysgol
Ryw un, dirion un, yn ol.
"Diau Sian sy'n dwys huno,—Sian fach,
Sy'n fud yn gorffwyso;
Onid trwm meddwl un tro
Na chaf mwy ond ei chofio?
Y ddoe, O laned oedd hon,—llawen wên
Llanwai'i hwyneb tirion;
Heddyw, nid llawn gwrid na llon
Yw ei dwyrudd, ond oerion!
Llawer gwaith y bu'n teithiaw—i'w hysgol,
Ni wnai esgus peidiaw;
Pur siriol f'ai prysuraw
Yno a'i llyfr yn ei llaw.
"Ie'r llyfr oedd ei hoff fri,—ac o'i llyfr
Cai ei llawn foddloni
Rhoi addysg bleser iddi,
Fe ddaliai'i holl feddwl hi.
"Pur rhwydd ai dros bob brawddeg,—yn ddiau
Yn y ddwy iaith wiwdeg,
Helaeth ddealltwriaeth teg
Mynsai Sian mewn Saesoneg.
"Da cofiai benodau cyfain,—a nid
Oedd ond naw o'i hoedran;
Ni cheid o ferch hyd y fan
Yn well am ddysgu allan.
"Ni fu'n faich i'r fenyw fechan―rifo
Rhyfedd symiau allan;
Ac am swm, prin caem i Sian
Ei chydradd mewn uwch oedran.
Hyd hoedl holl ieuenctyd y wlad,—on fydd
Am Sian fach yn wastad;
A'i dwylaw, er mewn daliad,
Mae'i hinc a'i phen mewn coffhâd.
"Er mai rhan fechan o fuchedd―welodd,
Nid a i wael annedd,
Ond rhawg i fwynhau trigfan hedd,
Yr hon na ddaw arni ddiwedd."
Yr ydym yn ei gael ymhen y pum mlynedd yn derbyn galwad daer i fod yn athraw yn y Bala, ac y mae yno drachefn yn ymdaflu o ddifrif i'r gwaith, a chymaint oedd eu gwerthfawrogiad o hono yno fel y maent yn gwneyd tysteb iddo ar derfyn blwyddyn a hanner o arosiad, cyn ei fyned i Fryneglwys, ger Corwen, i gadw ysgol. Ni bu ym Mryneglwys yn hir, gan iddo oeri a dechreu clafychu yno oherwydd anwyd a gafodd wrth fyned i blygain Nadolig mewn eglwys tua phedair milldir oddiyno. Yn gynnar yn 1863 y mae yn gorfod rhoddi yr ysgol i fyny; ac yn dyfod gartref i Ddolgellau i farw, yn ddyn ieuanc saith ar hugain oed. Bu yn dihoeni am rai misoedd, a gwelid yn amlwg fod y darfodedigaeth wedi ymaflyd ynddo, a bu farw yn Wnion Terrace, sef yr enw a elwid ar y rhes tai oedd yn gwynebu yr afon Wnion ger hen dollborth y Bont Fawr, cyn adeg y rheilffordd, Medi 18, 1863, yn saith ar hugain mlwydd oed. Yn 1875 cynygiwyd gwobr am hir a thoddaid ar ei ol gan Bwyllgor Eisteddfod Meirion, a derbyniwyd deg o gyfansoddiadau, a dyfarnwyd y pennill canlynol o eiddo ei gyfaill, ei ddisgybl, a'i edmygydd Graienyn, yn oreu,—
Llyncu da addysg wnai y llanc diddan,
Ei dasg anwyl oedd dysgu ei hunan,
A thrwy ei ferr—oes athraw fu Aran
Garai ddiwygio y rhai oedd egwan;
A thlos farddoniaeth lân—o'i ddwylaw gaid,
Dilynai'i enaid oleuni anian."
"Heddwch i'w lwch!"
Dolgellau.LLEW MEIRION.
NODIAD. Dylaswn ddweyd mai etching o waith Owain Aran ei hun yw y darlun a ymddangosodd uwchben y rhan gyntaf o'r ysgrifau hyn, a hynny drwy eistedd o flaen looking glass ac ardebu ei hun felly.—LL. M.
Huw Morus.
DADORCHUDDIAD EI GOLOFN GOFFADWRIAETHOL, PONT Y MEIBION, AWST 26.
YM mhob cwr deil Pont y Meibion—enwog
Yn anwyl i feibion
Cymru o hyd, bryd eu bron
Yw gwirio clod y gwron
Sy' a'i enw'n llawn swynion—i'w genedl,—
Aeth ei gân i'w chalon;
Gwylio fyn y Golofn hon
Wely gŵr gloew'i goron.
Caerdydd. THOMAS LOVELL (Tudur Taf).
Cymru Medi 1909