III. YR ATHRAW.
AR ol ymadawiad y Parch. Owen Evans o Ryd y Main, ni cheid ond ysgol nos yno, yr hon a gedwid gan un o'r enw Robert Richards o'r Brithgwm, hyd nes, fel y dywedwyd, i'r ysgol bresennol gael ei hadeiladu a'i hagor yn y flwyddyn 1855. Nid oedd athrawon trwyddedig yn hawdd eu cael yr adeg honno; ond caed allan fod llanc pedair ar bymtheg oed yn Nolgellau yn meddu ar ddawn neillduol mewn dysg, ac yn o debyg o wneyd y tro, a thrwy dipyn o berswadio cafwyd gan Owain i ymgymeryd â'r swydd o fod yn ysgolfeistr. Mae yn debyg mai Mr. R. O. Williams yr ysgolfeistr a'i cymhellodd i fyned, am y gwyddai y gŵr craffus hwnnw feallai fwy am Owain nag odid neb. Yr oedd Rhyd y Main yr adeg hon wedi cael blas ar addysg, ac yn llawn awydd am wneyd eu goreu dros yr ysgol newydd. Nid oedd Owain wedi cael unrhyw hyfforddiant fel athraw; ond yn fuan y mae yn dangos yn hynod eglur fod y gallu a'r ddawn i gyfrannu addysg yn gref ynddo. Gwrandawer ar un o'i ddisgyblion yn ei ddarlunio yn y cymeriad o ysgolfeistr,—
"Daeth Owain Aran i gadw ysgol ym Mryn Coedifor pan oedd yn bur ieuanc. Efe oedd yr athraw cyntaf a fu yn yr ysgol honno. Nid oedd yn athraw trwyddedig; er hynny, meddai ar holl gymhwysderau athraw llwyddiannus. Yr oedd yn deall i'r dim pa fodd i gyfranu addysg i'r plant, ac yr oeddynt yn dysgu popeth dan ei ofal, megis heb yn wybod iddynt eu hunain. Byddai yn chwareu gyda'r plant yn adeg chwareu, ac yr oedd drwy hynny yn eu denu i'w garu ac ufuddhau iddo ymhob peth. Ymledodd ei glod fel ysgolfeistr yn fuan drwy yr holl ardal, a byddai amryw o rai hynach na phlant am fis neu ddau yn y gaeaf yn dyfod i'w haddysgu, yr hyn a fu o fantais fawr iddynt."
Nid wyf yn meddwl y gellid cael gwell tystiolaeth i'w allu hyd yn oed gan Arholwr y Llywodraeth na'r dystiolaeth yna o eiddo ei ddisgybl talentog Graienyn. Yn fuan wedi dechreu ar ei waith fel ysgolfeistr dyddiol daeth dirprwyaeth gref ato i ofyn iddo sefydlu dosbarth er meistroli gramadeg a rheolau barddoniaeth gaeth yn fwy trwyadl, ac y mae dosbarth lliosog yn cael ei ffurfio, a dyma dystiolaeth Graienyn eto am dano yn y cysylltiad hwn,―
Ond er cymaint ei glod fel ysgolfeistr, yr oedd yn tynnu llawn cymaint o sylw fel bardd a llenor. Yr oedd yn gynghaneddwr cywrain ac yn englynwr da cyn ei fod yn bymtheg oed. Bu ganddo ddosbarth yn y gaeaf yn dysgu gramadeg a rheolau barddoniaeth. Yr oedd amryw o aelodau y dosbarth hwnnw yn ddynion mewn oed; er hynny yr oeddynt yn yfed ei addysg fel plant; ac y mae yr adgof am y dosbarth yn beraidd a dymunol, er fod y rhai a'i mynychent wedi mynd bron i gyd i ffordd yr holl ddaear; a gallaf ddweyd erbyn hyn, 'mai myfi yn unig a adawyd i fynegi hyn i chwi.' Yr oedd gan Owain Aran dalent arbennig gyfrannu addysg, ac yr oedd hwyl a mynd ar bob peth a gymerai mewn llaw; a bu ei lafur yn foddion i godi ysbryd llenyddol a barddonol uchel yn yr ardal, y fath na welwyd na chynt na chwedyn. Yr oedd yn fardd naturiol; ond er cymaint ei serch at farddoniaeth byddai yn cynghori ei ddisgyblion bob amser i beidio rhoddi eu holl feddwl at farddoniaeth; ond yn hytrach i ymroi â'u holl egni i ddysgu yr iaith Saesneg a phethau bendithiol eraill.
Dyma dystiolaeth llenor galluog arall a fu dan addysg Owain yn y dosbarthiadau hyn, yr hwn a fu yn parotoi ei hun ar ol hyn i fod yn ysgolfeistr, ond a newidiodd ei feddwl, ac aeth i'r weinidogaeth, ac a fu yn weinidog llwyddiannus am lawer o flynyddoedd, a hwnnw oedd y Parch. John Eiddon Jones. Dyma a ddywed y gŵr hwnnw,—
Mewn canlyniad i'r dosbarthiadau hyn trodd y myfyrwyr allan yn gyfansoddwyr da yn y mesurau caethion, a chynyrchwyd ysbryd barddonol a llenyddol yn y gymydogaeth na welwyd yn fynych ei fath, fel y daeth yr ymdrechfa am gyfansoddi englyn yn y cyfarfodydd llenyddol yn bwnc y teimlid y dyddordeb mwyaf ynddo gan y gymydogaeth.
Chwarel Cynddelw, onide? O'r nifer mawr a allesid enwi o'r rhai a fynychent y dosbarthiadau hyn, yr oedd Graienyn; Clynog; Robert Roberts, Carleg; Griffith Edwards; Hugh Edwards; Robert Pugh (Blodeuyn Mawrth); Helygog; Ieuan Alchen; Gutyn Ebrill; Dafydd Ifans, Nant y Gwyrddail, &c. Yr oedd Owain yn un bur ofalus am drylwyredd yn ei ddisgyblion, a gallai geryddu yn gystal ag hyfforddi. Cymerwn yr hanesyn hwn yn engraifft,―
"Un noson, yn y dosbarth barddonol, rhoddai yr athraw dipyn o gerydd i un o'i ddisgybl-