Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Owen R Lewis (Glan Cymerig) Perl y Plant 1910.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PERL.

MR. O. R. LEWIS, "GLAN CYMERIG."

GWN yn dda ddigon y bydd darllenwyr PERL Y PLANT, o'r Golygydd i lawr at y darllenwr ieuangaf oll, yn llawenychu weled y darlun uchod o 'Glan Cymerig.' Cân lawer, a chân yn dda. Cân auaf a haf; 'Gwyl Fair' a Gwyl Fihangel. Yn wir, dyry gân bob mis, ac yn amlach na hyny. Difyr i ddarllenwyr y PERL fydd cael ychydig o'i hanes. Mwy, bydd yn lles iddynt. Mae hanes gwr da, megis enaint gwerthfawr, yn perarogli bywydau eraill. Nid rhyfedd ei fod yn fardd, ac yn fardd da. Ganwyd ef ger Tremadog, yn Eifionydd. 'Does unman fel Eifionydd, am fagu beirdd. Dyna fro Dewi Wyn, Pedr Fardd, Eben Fardd, Robert ap Gwilym Ddu, Ellis Owen, Ioan Madog, a Gwilym Eryri. Yno hefyd y clywid Nodau soniarus Sion Wyn.' Wel dyna lle magwyd Glân Cymerig nes oedd yn hogyn deg oed. Y pryd hwnw symudodd ei rieni sef Isaac