Gwirwyd y dudalen hon
YSGUBWR Y STRYD
HEN wladwr yw, erioed ni fagodd tref
Wron o'i osgo batriarchaidd ef.
Ei lygad gwyl a ddengys las y wawr
A dyr yn araf dros y Frenni Fawr.
Os nad fel Dewi'n ddyfrwr, ar ei fron
Ymdonna barf wir deilwng o Fab Non.
Er lludded llwch yr heol hyd y dydd,
Mae arlliw haidd Sir Benfro ar ei rudd.
O chloffir ef gan iaith nas medr ei thrin,
Mae iaith fonheddig Dyfed ar ei fin.
Lle gwelir ei ysgubell ef, o hyd.
Bydd darn o fro Siôn Gymro ar y stryd.
Urddasol ŵr, wyneba'r glaw a'r gwynt
Fel un o hen broffwydi Cymru gynt.
Gwna yntau'i ran, heb honni'r dwyfol dân,
A'i ddawn ysgubol i greu Cymru lân.
Y GWR DIOG
GORWEDDAIS am flynyddoedd mawr
Drwy deg a garw,
Ac nid wy'n mynd i godi 'n awr,
Dim, 'tawn i' marw.