Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y CYNTAF I SYRTHIO

HANES pob gwlad
A dystia'n glir
Mai'r cynta'n y gad
I syrthio yw'r Gwir.

CEILIOG YN CANU YN Y NOS

O TAW, aderyn ffôl,
Mae traean nos yn aros eto'n ôl;
Arswydlawn yw dy sŵn
Pan gwyd yn gymysg ag adiadau'r cŵn.
I gorddi fy nychymyg.
A llunio im gur a gwae, a thranc anhymig.

Dy gryglais oer o'r glwyd
A yrr ias erch drwy'r gwyll, ai ellyll rwyd?
Beth bynnag wyd, och, taw
Hyd oni welir ar y bryniau draw
Y cyfddydd egwan ar adenydd llwydion,
Hyd hynny gad im dramwy tir breuddwydion.

Ond, ofer ymbil, wedi pob seithug dro
Dy unig ateb swrth yw: Go-c-o-go!
Wel, gwna dy waetha'n awr,
Od aeth fy nghwsg ar ffo,
Rhof derfyn ar dy drwst pan dyr y wawr;
Ac wrth fwrdd cinio fory, bach a mawr
A ddathla gyda gorfoleddus gri
Dy dranc anhymig di.