Gwirwyd y dudalen hon
CHWARE TEG I IOLO
FE ganodd lawer cywydd
Yn gelfydd ac yn gain
Gan adael mai Ap Gwilym
O'i rym a fu'n creu'r rhain.
Er cynddrwg ei anfadwaith
'Roedd ganwaith gwell nag un
A gymerth gywydd Iolo
A'i hawlio iddo'i hun.
WIL A'I GOD
E FARW Wil, cefnoca'r fro—a gadael
Y god a oedd ganddo,
A daeth bagad yma, do,
O'i dylwyth i gyd-wylo.
Ar ei elor oer wylant—ac ar fin
Gro'i fedd ocheneidiant,
Ond, rhwng dyfnion gŵynion gant
Ei goden a lygadant.
I elw ei rym Wil a rodd—a'i hir oes
Ddi—wraig a gysegrodd
I'w ddilyn, ac addolodd
Y garn o aur a grynhôdd.
Am ei god pa ymgydio!—a'i dylwyth
Yn dal i ymruthro
Ym modd y Fall am eiddo
'R enwog Wil, druan ag o!