Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

EDIFEIRWCH

O FRITHYLL bach, sy'n rhoddi llam
Yng nghornant y Llethr Du,
Erfyniaf dy faddeuant am
Ddwyn einioes dy dad-cu
A phin a blygwyd genny'n gam
Yng nghrog wrth rownyn cry'.

Mae'r hen euogrwydd hwn o hyd
Uwch dim yn poeni 'mhen;
Faint gwell wyf i o'm dal ynghyd
A Bardd y Garreg Wen,
A'r Bardd â'i gerdd yn glod i gyd
I'w Enwair, ac i'w Fen?

Barbariad ieuanc o'wn, bid siŵr,
A gelyn milod mân,
Ond, wedi cyrraedd oedran gŵr,
Gwell genny', frithyll glân,
Dy weld yn chware o dan y dŵr
Na'n ffrio ar y tân.

Hir oes i ti, a lle i roi llam
Gorchfygol pan ddêl pry',
Ond gochel bob abwydyn cam
A ddelo i'r Llethr Du,
A maddau, O! maddau imi am
Ddwyn einioes dy dad-cu.