Gwirwyd y dudalen hon
Ni ddychwel gwanwyn ar ei dro
Na hed fy nghalon eto'n syth
I heol blwyf mewn gwledig fro
A garaf byth,
Tramwyfa tylwyth 'Mam a 'Nhad
I'r llan, i'r ysgol, neu i'r ffair,
Ac yntau'r haul yn hulio'r wlad
A'i olud aur.
****
Ac ar ôl hyn, y lana' erioed,
A'r haul a'r awel yn ei gwallt,
Mor ysgawn droed a dynn i'r oed
O dan yr allt.
Y GRAGEN WAG
I DIR gwlad o'r gwaelodion—yn degan
Y dygwyd hi weithion,
Gragen wag, organ eigion,
Digymar deg em o'r don.
Y SWP GRAWNWIN
YR haul a dywallt o'i rin—a'i loniant
I lunio'r swp grawnwin;
Faeth dihafal, foeth deufin,
Odidog wawr, dad y gwin.