Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon



Cesglais y gwlân, yn ddu a gwyn,
Rhwng drain a drysi ciliau gwlad,
A dysgais y patrymau hyn
Wrth dân o fawn ym mwth fy nhad;
A difyr dasg fu troi i'r gwŷdd
I'w gweu yn hamdden hwyr y dydd.