Tudalen:Penillion Telyn.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhyddid a Hoen

CANU wnaf a bod yn llawen
Fel y gog ar frig y gangen;
A pheth bynnag ddaw i'm blino
Canu wnaf a gadael iddo.

Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gânt fynd i'r fan a fynnon',
Weithiau i'r môr ac weithiau i'r mynydd,
A dod adre yn ddigerydd.

Peth braf yw haf a hawddfyd,
Peth braf yw ysgawn iechyd,
Peth braf yw arian yn y pwrs,
Peth braf yw cwrs yr ienctid.

Diofal yw'r aderyn,
Ni hau, ni fed un gronyn,
Heb ddim gofal yn y byd,
Ond canu hyd y flwyddyn.

Fe fwyty 'i swper heno,
Ni ŵyr ym mhle mae'i ginio,
Dyna'r modd y mae e'n byw,
A gado i Dduw arlwyo.

Fe eistedd ar y gangen,
Gan edrych ar ei aden,
Heb un geiniog yn ei gôd,
Yn llywio a bod yn llawen.