Tudalen:Penillion Telyn.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mi fûm lawer bore difyr
A dechreunos yn fwy sicir,
Rhwng Penceint a Phlas Penmynydd
Yn gwrando ar fwynion bynciau'r hedydd.

Llawer gwaith y bu'n fy mwriad
Gael telynor imi'n gariad,
Gan felysed sŵn y tanne'
Gyda'r hwyr a chyda'r bore.

Rhaid i gybydd gadw'i gaban,
Rhaid i ienctid dorri allan,
Hyd fy medd mae'n rhaid i minnau
Ganlyn mwynion dynion dannau.

Mwyn yw peraidd leisiau'r adar
Ar y clyw ar fore claear,
Gwell gen i yw clywed englyn
Mewn aceniad gyda'r delyn.

Hwyl i'r dwylo chware'r delyn,
Hwyl i'r pennill, hwyl i'r englyn,
Hwyl i yrru'r beirdd o'u hwyliau,
Hwyl i'w nôl hwy yn eu holau.

Da gan ddiogyn yn ei wely
Glywed sŵn y droell yn nyddu,
Gwell gen innau, dyn a'm helpo,
Glywed sŵn y tannau'n tiwnio.