Tudalen:Penillion Telyn.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gogan

BRITH yw sêr ar noswaith olau,
Brith yw meillion Mai a blodau,
Brith yw dillad y merchedau,
A brith gywir ydynt hwythau.

Mae gennyf gariad yn Llanuwchllyn
A dwy siaced a dau syrcyn,
A dwy het ar ei helw ei hun
A dau wyneb dan bob un.

Mae fy nghariad wedi sorri,
Ni wn yn wir pa beth ddaeth ati,
Pan ddaw'r gwybed bach â chywion
Gyrraf gyw i godi 'i chalon.

Mi ddarllenais ddod yn rhywfodd
I'r byd hwn wyth ran ymadrodd;
Ac i'r gwragedd (mawr lles iddynt),
Fynd â saith o'r wyth-ran rhyngddynt.

Tebyg yw dy lais yn canu
I gog mewn craig yn dechrau crygu,
Dechrau cân heb ddiwedd arni,—
Harddach fyddai iti dewi.

On'd ydyw yn rhyfeddod
Fod dannedd merch yn darfod,
Ond, tra bo yn ei genau chwyth,
Na dderfydd byth mo'i thafod?