Tudalen:Penillion Telyn.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gorau, gorau, gorau, gorau,
Gael y wraig yn denau, denau,
Ac yn ddrwg ei lliw a'i llun—
Mi gaf honno i mi fy hun.

Tri pheth sy'n uchel ryfedd—
Cader Idris draw'n y Gogledd,
Pen Pumlumon, hynod fynydd,
A merch â het o'r ffasiwn newydd.

Tri pheth sydd hawdd eu siglo—
Llong ar fôr pan fo hi'n nofio,
Llidiart newydd ar glawdd cerrig,
A het ar gorun merch fonheddig.

Tri pheth a fedra' i orau—
Canu telyn heb ddim tannau,
Darllen papur gwyn yn groyw,
A marchogaeth ceffyl marw.

Tri pheth sy gas wrth garu—
Oeri traed a cholli cysgu,
Tan y bargod yn dal defni,
A'r ferch yn chwerthin yn y gwely.

Tri pheth sydd anodd nabod—
Dyn, derwen a diwrnod,
Mae'r dydd yn hir a'r pren yn gau
A'r dyn yn ddau wynebog.