Tudalen:Penillion Telyn.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hiraeth

DWEDWCH, fawrion o wybodaeth,
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth
A pha ddeunydd a roed ynddo,
Na ddarfyddai wrth ei wisgo?

Derfydd aur, a derfydd arian,
Derfydd melfed, derfydd sidan,
Derfydd pob dilledyn helaeth,
Ond, er hyn, ni dderfydd hiraeth.

Hiraeth mawr a hiraeth creulon
Sy bob dydd yn torri 'nghalon,
Pan fwyf dryma'r nos yn cysgu
Fe ddaw hiraeth, ac a'm deffry.

Hiraeth, hiraeth, cilia, cilia,
Paid â phwyso mor drwm arna',
Nesa dipyn at yr erchwyn,
Gad i mi gael cysgu gronyn.

Ar lan y môr mae carreg wastad,
Lle bûm yn siarad gair â'm cariad„
O amgylch hon fe dŷf y lili,
Ac ambell gangen o rosmari.

Yn y môr y byddo'r mynydd
Sydd yn cuddio bro Meirionnydd
Na chawn unwaith olwg arni
Cyn i'm calon dirion dorri.