CREFYDD A CHASINEB
Yn Synod ddiwethaf Caergaint eglurodd yr Archesgob anhawster a chyfrifoldeb yr Eglwys i gadw cytbwysedd; ar y naill law, i gefnogi a chryfhau ffyddlondeb y bobi i ymladd hyd fuddugoliaeth, ac ar y llall, i'w gwaredu rhag ildio i nwydau rhyfel ac anghymwyso'r genedl i ddefnyddio'r fuddugoliaeth er clod Duw, a chael eu hysgaru oddi wrth ei amcan cariadus. Pasiwyd gan y Synod wrthdystiad cryf yn erbyn y casineb a'r dialgarwch a ymddangosai yn y wasg (22 Mai 1942).
Yr un diwrnod, yn Nhŷ'r Arglwyddi, ceisiwyd gan Arglwydd Vansittart gyfiawnhau Cytundeb Heddwch Fersai a'r dial ar bobl yr Almaen; atebwyd ef gan Arglwydd Cranborne, ar ran y Llywodraeth, ei fod yn cytuno â'r Arglwydd Vansittart fod Cytundeb Fersai wedi trin yr Almaen yn ysgafn, a bod cyfiawnder i'w weinyddu ar yr euog yn ôl telerau Siarter Iwerydd. Golyga hyn oll angen gwyliadwriaeth disgyblion Crist a abertha y plant i amddiffyn gwlad a chrefydd ym mrwydr y Llywodraeth, rhag bod moddion ac amcanion llywodraethau yn bradychu amodau sylfaenol y Ffydd. Gair penagored iawn yw y gair "cyfiawnder." Cwynai Wordsworth, tros ganrif yn ôl: "Claf yw daer a nef pan sonia gwlad a theyrnas am gyfiawnder."
Y FARN GYHOEDDUS
Wrth gymell arfau Cesar, a chyfiawnder Cesar, yr ydym yn apelio at Gesar; ac at Gesar y mae'n rhaid myned am hanes gwleidyddol ac achosion y rhyfel presennol, neu ynteu syrthio yn ôl ar rywbeth mwy peryglus nag anffaeledigrwydd Pab, sef anffaeledigrwydd Llywodraeth y dydd, a'r peth oriog hwnnw a elwir y "farn gyhoeddus."
Pawb yn y clyw yn byw a bod
Ar rywbeth ddwedo'r Papur.
Sylfaen y farn gyhoeddus a'r wybodaeth boblogaidd am achosion y rhyfel a chyfiawnder y gwledydd yw'r wasg ddyddiol a barn arweinwyr y pleidiau: ac yn nydd llifogydd. rhyfel, cymysglyd iawn yw lliw y dyfroedd hyn. Yn ôl un