Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddal at fy swydd ddyngarol pan oedd ef yn barod i fentro ei fywyd yn Ffrainc. Atebais na ddylasai omedd i mi unrhyw aberth dros Deyrnas Dduw yn ôl fy nirnadaeth ohoni. Felly, ac nid heb ofid, y bu datgysylltu â gwaith diddorol ac â chyfeillion personol. Y ddau a'm deallodd orau ydoedd yr annwyl Syr Lleufer Thomas a Syr Stafford Howard. Daeth yr olaf yn unswydd i Gaerdydd i geisio fy narbwyllo, a threuliasom oriau yn ei ystafell yn y Park Hotel. Dywedai fod ei frawd yn Llysgennad yn Sweden ac yn gwybod am gynlluniau'r Almaen, a'i fod yntau'n credu hefyd nad oedd ond ffordd Crist amdani yn y diwedd, wedi i ni roi "curfa dda iddynt" i ddysgu'r wers. Modd bynnag, trodd y ddadl yn seiat brofiad; dywedodd wrthyf am droeon ei yrfa, am ei briodas hapus, am ei ferch fach a ddysgai Gymraeg. Yn y diwedd dywedodd na fynasai er dim fy mherswadio yn erbyn fy ngweledigaeth; siarsiodd fi, os byddwn mewn unrhyw angen neu anhawster, beidio â phetruso gofyn am ei gymorth neu ei gyfarwyddyd. Pan gofiais ei fod o dras uchaf y Saeson, yn ŵyr i'r Dug Norfolk, yn dirfeddiannwr mawr ac yn gyn-aelod o'r Llywodraeth, ni allwn beidio â rhyfeddu mor debyg oedd gwŷr gwir fawr i wŷr bach cartrefol y werin. Y dynion canol, yn aml. "y gwas pan llywodraetho," sydd yn ymchwyddo ac yn ymbellau yn rhinwedd ei swydd a'i safle.

YR HEDDYCHWYR

Ym mlynyddoedd cyntaf y rhyfel, ychydig oedd y rhai a broffesai "ffordd fwy rhagorol" na rhyfel. Yr oedd dylanwad y Wasg, fel ym mhob rhyfel, yn cuddio pob rhinwedd o eiddo'r gwrthwynebwyr ac yn bloeddio pob bai. Tri aelod yn unig o'r Llywodraeth Ryddfrydol a ymddiswyddodd yn hytrach na chefnogi rhyfel—Arglwydd Morley, Syr Charles Trevelyan a John Burns; agnosticiaid, heb broffesu Crist, oedd y tri, fel y mab hwnnw a ddarluniwyd yn y ddameg ac a ddywedodd, "Nid af; ond efe a aeth." Yn niwedd 1914 cyfarfu nifer o weinidogion a chrefyddwyr o bob enwad yn Llandudno i geisio mewn cyfyng-gyngor y "ffordd amgenach." Yr oeddynt yn Eglwyswyr, yn Anghydffurfwyr ac yn Grynwyr. Yn eu plith yr oedd y Cymro, y Parch. Richard