Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan gydymdeimlad â'r glowyr. Er hyn oll, nid aeth y meddygon at wreiddyn y drwg, sef anghyfiawnder ac anfoesoldeb sylfaenoi Heddwch Fersai. Rhybuddiwyd y byd yn wir gan y bancwyr cydwladol yn 1926, a chan athrawon Prifysgol Columbia mewn datganiad pwysig. Aeth yr enwog Syr George Paish, cyn-Gynghorydd y Trysorlys, yma ac acw drwy'r wlad i geisio deffro'r cyhoedd i ganlyniadau arswydus yr iawndal a'r dyledion:

"Yr oeddym yn haeru heddiw y dylasai'r Almaen werthu swm anferth o nwyddau er mwyn yr iawndal, ond yr effaith oedd gostwng pris y nwyddau hynny. Nid oedd ein gwladweinwyr yn dweud dim amdano; eto yr oedd yn gwneuthur difrod anferth i ni i gyd. Rhaid oedd dringo o'r sefyllfa y'n gosodwyd ynddi gan y rhyfel a pholisi'r gwladweinwyr, onid ê byddai newyn, a chyfyngder mawr a chwyldroad."

(Rhagfyr 1927).

Dangosais i Syr George Paish bamffled a ysgrifennais beth amser yn gynt dan yr enw "Reparations and Industrial Ruin" i geisio galw sylw at y canlyniadau economaidd yn Ne Cymru, yr achosion moesol a gwleidyddol yn Heddwch Fersai i helyntion Ewrop. Dywedodd yntau ei fod wedi digalonni wrth geisio deffro'r cyhoedd i'r peryglon hyn, a gofynnodd a welwn ryw fodd i berswadio esgob neu wlad- weinydd i astudio'r mater ac i argyhoeddi'r bobl o'u perygl? Anfonais y pamffled at berchenogion y pyllau glo a adwaenwn, ac at esgobion a chlerigwyr a allasai oleuo'r eglwys; ond yr oedd helynt cyfnewidiad y Llyfr Gweddi Cyffredin yn llenwi meddwl yr eglwys ar y pryd. Ysgrifennais at Mr. Lloyd George a chefais wahoddiad i drafod y mater gydag ef; dywedodd fod ganddo feddwl uchel o Syr George Paish, ac er ei fod yn cael ei alw yn "hen Jeremeia," yr oedd Jeremeia yn wir broffwyd. Yna dywedodd ei fod yntau o blaid difodi dyled yr Almaen ond i'r America faddau i ni! Gofynnais iddo, onid oedd maddeuant yn ofyniad anhepgorol yn y byd moesol, a phe buasai i ni fentro i'r tir yna a maddau ein rhan ni o'r dyledion, onid oedd yn bosibl y buasai eraill yn dilyn ein hesiampl? Atebodd:

"Y mae rhywbeth yn hynny. Bargeinwyr caled yw'r Americanwyr, ond pan welont rywun yn gwneuthur y Big Thing daw rhyw awydd ynddynt i fyned ymhellach. Ceisiwch gael yr hen Archesgob i godi'r mater trwy'r eglwysi fel mater o faddeuant."