Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Scott). Wedi iddo lwyddo yn ei fwriad i gael Lloyd George yn Brif Weinidog yn 1916, teimlai fod ganddo hawl arno, a mynnodd gael myned i Fersai yn un o gynrychiolwyr Prydain. Yn ôl adroddiad Tom Clarke o'r hanes mewnol, a gafodd gan Lloyd George: "Pan ofynnodd Northcliffe i mi ei osod ar y Dirprwyaeth Heddwch dywedais wrtho am 'fynd i uffern.' Torrais oddi wrth Northcliffe. Gwrthodais yn llwyr ei oddaf yn y Gynhadledd Heddwch. Dioddefais ef am bedair blynedd. Yr oedd yn rhaid torri ag ef pan fyn- nodd orchymyn i mi. Fel Prif Weinidog, ni allwn oddef hynny. Credai Northcliffe y gallai lywodraethu'r wlad. Yr oedd ei farwolaeth yn ergyd drom i Poincare." Yr oedd ei benarglwyddiaeth yr un mor llym a chreulon a mympwyol gyda'i wasanaethyddion ei hun, a'i bolisi yn hollol ddiegwyddor. Pan gododd streic ymhlith gweithwyr y Pearl Insurance Co. am isrif cyflog, addawodd y Daily Mail gyfrannu 1,000p. yn yr wythnos at gronfa'r streic. Dywedodd wrth Tom Clarke: "Ni wêl rhai pobl beth mor fawr sydd yn hyn fy machgen i; y maent yn brin o weledigaeth. Yr ydym yn ennill ymddiriedaeth Llafur wrth gefnogi'r dynion hyn."

Pan aeth Ffrainc i'r Ruhr gyda'i byddinoedd duon, ac yn hollol groes i'r Cytundeb Heddwch, slogan y Daily Mail ydoedd Hats off to France. Felly y cyflawnwyd cwrs ofnadwy'r baganiaeth modern; gellid defnyddio geiriau'r Salmydd amdano:

"Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd. Buain yw eu traed i dywallt gwaed. Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd a ffordd tangnefedd ni adnabuant."

Terfynodd megalomania y gŵr hwn mewn gwallgofrwydd. Ei neges olaf drwy'r teliffon i swyddfa'r Daily Mail ydoedd: "Y mae'r meddygon yn fy ngwylio, dywedant fy mod yn mynd yn wallgof; anfonwch eich reporter gorau am y stori."