Anffyddiaeth
Aruthr yw ei hathrawiaeth,—llawn o dwyll,
Yn dallu dynoliaeth:
Gwadu'r Iôr mewn gwawd a wnaeth,
A chau dôr Iachawdwriaeth.
—Richard Williams (Beuno), Porthmadog
Anian ac Einioes
Gogoned yw gwedd gu Gwanwyn,—cain Ha'
A'r Cynhauaf melyn;
Cwympiad deiliad sy'n dilyn:
Un naws a dail einioes dyn!
—B. B.
Anerch at gyfaill mewn cystudd trwm
Yr Oen addfwyn yw'r noddfa,—i'r perwyl
Darparwyd Ei laddfa;
Os dirfawr eich blinfawr bla,
Mae iechyd yn y Meichia'.
—David Jones, Treborth
Anrheg o Ffon
Drwy ddiwydrwydd y ddeudroed —y cerddyddais
Nes cwrddyd a'r trithroed:
Ar ol dydd y trydydd troed,
Daw hurtrwydd a phedwartroed.
—Owen Gethin Jones
Ansicrwydd Bywyd
Gall gwr fod neithiwr yn iach,—y boreu
Heb arwydd amgenach,—
Y fory'n annifyrach,—
Drenydd ar obenydd bach!
—Pwy yw'r awdwr?
Aradr, Yr
Brenin yr holl beiriannau—arddelir
Ar ddolydd a llethrau,
Yw'r Aradr, i droi erwau,—
Daear werdd yn dir i hau.
—Robert Owen (Machno), Llandudno
Arch Noah
Noddfa uwch porth newyddfyd,—a'i seilia
Ar gwys ola'r cynfyd:
Dros elfen drws i eilfyd:
Croth lwythog, feichiog o fyd.
James James (Iago Emlyn)