Beddargraff Catrin Elis, Bryn Cynan Bach:
hen wreigan dlawd, dduwiol
Trwy y niwl Catrin Elis—a ganfu
Y gwynfyd uchelbris
I hon nid oedd un nod is
Na Duw'n Dduw,—dyna ddewis!
—Ebenezer Thomas (Eben Fardd).
Beddargraff Cyffredinol
Yn ei fedd, a thyna fo—wedi myn'd,—
Dim mwy son am dano!
Daear—dwf sy'n do ar do,
Yn dïengyd i angho'.
—John O. Griffith (Ioan Arfon).
Beddargraff Dafydd Ddu Eryri
O! fedd oer ein Dafydd Ddu,—henadur
A hynododd Gymru:
Ewythr i feirdd—athro fu,—
Cefn wrthynt i'w cyfnerthu.
—David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
Beddargraff dau faban
Rho'ed, o'u cryd, y cariadau—tyner hyn
Tan yr oer briddellau,
Cyn i bechod, â'i nodau,
Roddi ei ol ar y ddau.
—Robert Williams (Trebor Mai)
Beddargraff dau faban 2
Wele ddau, fel dau flodeuyn,—eisoes
Wywasant o'r gwreiddyn;
Ond, daw'r had, eto, er hyn,
Drwy Iesu, fel dau rosyn.
—Ebenezer Thomas (Eben Fardd).
Beddargraff Dewi Arfon
O! ddiallu weddillion!—ynoch chwi
Ni cheir Dewi Arfon:
Angel—luniwr englynion
Fydd fyw'n hwy na'i feddfaen hon.
—Thomas Jones (Tudno)
Beddargraff Dewi Wyn o Eifion
Ei farddas digyfurddyd—ca' eiloes
Mal colofn o'i fawryd;
A chofiant llawnach, hefyd,
Na chareg bedd—na chreig byd.
—Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia)