thyglau ffydd i Pio Nono: edrychid ammo gynt fel pwnce heb ei gwbl benderfynu, ac yr oedd amryw o brif ddynion yr Eglwys yn ymwrthod a'r athrawiaeth, ac ereill yn rhoddi iddi fath o gydsyniad hanerog, hyd nes cyhoeddodd Paul V. fod amheuaeth o honi neu wrthwynebiad iddi yn sicr o greu anghydfod, ac y dylid ei derbyn. Ni thalai y teimlad hwn i Pio Nono, mynai ef ie neu nage o berthynas i'r pwngc, ac wedi celgymanfa, yn mha un y cafodd gydsyniad ei Gardinaliaid, ar yr 8fed dydd o Dachwedd, 1854, y dydd gwyl pennodedig-tynodd allan bab-archiad, yn yr hwn yr hysbysai fod y Cenedliad Dihalog i gael ei dderbyn fel erthygl ffydd o dan boen esgymundod, a chondemniad fel hereticiaid, a chyfodwyd yn y fan gofadail ardderchog i ddathlu i'r oesau ddydd genedigaeth y penderfyniad athrawiaethol digymhar hwn. Yn fuan wedi hyn cymerodd ddull arall i ddallu cydwybodau dynion, ac i'w dwyn o dan ei iau haiarnaidd, a'i ewyllys orfeisiol. Yn Awst, 1855, ffurfiwyd cytundeb rhwng Awstria a Rhufain, yn mha un yr oedd rhyddid yr Eglwys yno yn cael ei gyfyngu, a luaws of breintiau yn cael eu cymeryd oddiarni. Condemniwyd ymddygiad y Pab yn hyn gan bob un o'r llywodraethau ereill, ac eithrio yr Yspaen; ac wedi canfod o Awstria, y teimlad, anfoddlonodd hithau yn fawr. Parhaodd y cytundeb mewn grym hyd 1868, pan y dirymwyd ef gan Senedd y wlad, a thafasant ran o'r iau pabaidd ymaith yr un adeg. Ffromodd y Pab yn fawr wrth y weithred, a chondemniodd hi; ond yr oedd gwleidyddwyr Awstria yn dechreu teimlo y gallent wneyd yn well heb ei gadwynau tymhorol ac ysprydol; a phrofwyd hyny drwy gynydd yn mhob ran o'r ymerodraeth. Dangos ei allu anffaeledig ydoedd amcan y ddwy ddyfais a grybwyllasom, a buont yn foddion, mae'n debyg, i gadw anrhydedd y babaeth i fyny os nad hefyd i dyogelu y goron am amser. Gwnaeth y Pab un symudiad, tua'r flwyddyn 1857, i ddwyn ynghyd ei ddeiliaid tymhorol, a chymerodd daith drwy ei diriogaethau i'r perwyl hwnw; ond yr oedd gwaed yr Eidal yn berwi gyda'r dymuniad a'r awydd o sylweddoli Unoliaeth Eidalaidd, fel mai croesaw oeraidd a dderbyniodd yn ei ymweliadau, ac ymddengys fod ei ymgais i enill eu calonau wedi troi yn fethiant. Gwelai y galluoedd cylchynol yn ei adael, a'u bod yn dechreu cydnabod y dylasai yr Eidal fod yn un prif-allu yn eu mysg, yn lle bod yn dalaethau ac yn rhaniadau bychain; ac yr oedd amgylchiadau yn crynhoi o'i gylch mor gyflym fel mai prin y gallai beidio canfod y diwedd yn neshau. Yn 1859 torodd rhyfel allan rhwng Brenin Sardinia ac Awstria, a chynorthwywyd Victor Emmanuel gan Ymerawdwr Ffraingc (asgwrn cefn y Pab,) a'r canlyniad fu i Lombardy gael ei rhoddi iddo, ac yn fuan drwy wrthryfel dylynodd Naples, Tuscany, Parma a Modena, a daeth Victor Emmanuel yn frenin ar yr holl Eidal bron. Dechreuodd y Pab erfyn y pryd hyn ar alluoedd Ewrop i'w gynorthwyo yn erbyn brenin Sardinia, tra yr oedd Garibaldi ar y llaw arall, yn cynhyrfu yr Eidaliaid i wrthryfel. Ni chymerwyd sylw o erfyniadau Pab gan y galluoedd hyny, ac oni buasai fod Ffraingc yn amddiffyn Rhufain a Civita Vecchia, buasai ei allu tymhorol wedi ei gwtogi ar yr adeg yma.
YN GWRTHOD CYDNABOD VICTOR EMMANUEL.
Cyhoeddwyd Victor Emmanuel yn frenin yr Eidal, ac anfonwyd at ei Sancteiddrwydd i'w gadarnhau; ond gwrthododd. Pa un bynag, cydnabyddwyd ef gan y galluoedd ereill, a gweithredodd yn annibynol arno. Bygythiai a fromai yntau, ac o'r diwedd condemniodd y brenin i esgymundod. Yn y flwyddyn 1862, cynhyrfwyd yspryd Garibaldi i ail ymddangos ar y maes; ac er gwaethaf rhybudd Victor Emmanuel, a'i wrthwynebiad iddo i godi gwrthryfel, cawn iddo godi byddin o wirfoddolwyr, a hwylio tua Rhufain i'w rhyddhau; a'i arwyddair ydoedd "Rhufain neu farwolaeth." Ond yn anffodus iddo, cyfarfuwyd ef gan y byddinoedd breninol, a chymerwyd ef yn garcharor, cyn iddo effeithio ei amcan. Wedi ychydig o garchariad, derbyniodd ei ryddid yn ddiamodol; ac y mae yn debyg fod Garibaldi a'r llywodraeth freninol i raddau yn deall eu gilydd ar y pryd; ac mai sicrhau Rhufain yn brifddinas drwy rhyw foddion ydoedd yr hyn mewn golwg. Tua diwedd yr un flwyddyn, dychrynwyd ef yn ddirfawr oherwydd cyhoeddiad wedi ei law-nodi gan y Tad Passaglia, a'i arwyddo gan oddeutu deng mil o offeiriaid Eidalaidd, yn yr hwn y gwrthodent gydnabod ei allu tymhorol; ac achosodd hyn ddiwygiad pwysicach yn y flwyddyn 1864, pan arwyddwyd gan Ffraingc a'r Eidal gytundeb cydweithredol Addawodd yr Eidaliaid, ar eu rhan hwy, beidio a chyffwrdd-na gadael i arall wneyd a'r Pab na'i ddinas, ac y cymerent ef dan eu nawdd, gan gyfranu at ddyled y talaethau Pabaidd. Amododd y Ffrangcod, ar eu rhan hwythau, alw adref y fyddin a amddiffynai y Ddinas Sanctaidd yn mhen dwy flynedd. Ni foddhai y telerau uchod y Tad Passaglia na'r offeiriaid a'i cynorthwyent ef, nac ychwaith