Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pio Nono.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anghyfnewidiol. Os meiddio neb—na ato Duw ei fod—wrthwynebu ein gosodiadau bydded Anathema."

Dyna ris uchaf ei uchelgais; dyna glimax ei ryfyg; a pha beth bynag a ddysgwyl— iodd oddiwrthynt er lles ei grefydd neu ychwanegiad i'w hunan—ogoniant, neu pa beth bynag a fwynhaodd drwy eu cyflawniad, gallwn ddyweyd, mai ychydig o amser wedi hyny, yn Medi 1870, oddeutu mis wedi i'w haerllugrwydd ddyfod yn ffaith, wedi iddo afael yn ngwisg yr Archoffeiriad Mawr, a honi ei deyrnwialen, gwelodd ar unwaith "Na oddef nef ormod." Tynwyd ymaith y milwyr ffrengig—nid oedd eu hangen i amddiffyn anffaeledigrwydd—a marchogodd milwyr Victor Emmanuel yn fuddugoliaethus dros gaerau drylliedig y Ddinas Dragywyddol, a derbyniwyd y fyddin gyda banllefau o "ryddid" ac "i lawr gyda Thyraniaeth."

Protestiodd y Pab, wrth gwrs, yn erbyn yr awdurdod, ond cymerwyd pleidlais cyffredinol o berthynas i uniad Rhufain gyda'r Eidal o dan un brenin, a'r canlyniad fu, fod allan o 167,548 o bleidleisiau, 133,681 wedi eu rhoddi dros yr uniad.

YN GWRTHOD BLWYDD—DAL.—YN BYW FEL CARCHAROR YN Y VATICAN,

Cynygiwyd wedi hyn fod i'r Pab dderbyn oddiwrth y llywodraeth mewn gallu, fath o flwydd—dal tuagat gynal ei urddas, ond gwrthododd, a thybiodd ei bod yn fwy anrhydedd derbyn rhoddion a chardodau gan ei ddeiliaid ffyddlon na bod yn rhwymedig wrth ewyllys da yr Eidaliad a lawenychasai yn ei ddarostyngiad. Gwrthododd yn llwyr, a'i gynghorwyr hefyd, gydnabod unrhyw allu arall: ac ymddengys oddiwrth ei ewyllys er iddo dynu yn ol esgymundod Victor Emmanuel pan ar ei wely angeu—ei fod wedi gadael y felldith esgymunol ar ei fab Humbert ar ei esgyniad i'r orsedd yn lle ei dad. Wedi cymeriad Rhufain gan Victor Emmanuel, ymneillduodd y Pab o'i fodd i'w balas, y Vatican, a galwai ei hun yn garcharor a merthyr; ac yn ystod ei garchariad y terfynodd ei 25ain mlwydd o'i Babaeth. Gwnaeth lawer o bethau. rhyfedd a herfeiddiol tra yn ei neillduedd, ac yn eu mysg, gorchymynodd Jubili ar derfyniad ei 25ain o'r Babaeth, a derbyniodd longyfarchiadau gan yr holl benau coronog cylchynol. Anfonodd hefyd lythyr at Ymerawdwr yr Allmaen, yn yr hwn y cwynai fod y Pabyddion yn ei'deyrnas yn cael eu hymlid a'u gorthrymu, a'i fod ef yn hawlio rheolaeth arnynt, ac yn gorchymyn ufudd-dod i'w allu ysprydol gan bob un bedyddiedig, Atebodd yr Ymerawdwr ef drwy ddyweyd ei fod ef yn berffaith alluogi wylio ei deyrnas a'i threfniadau, ac nas gallai weled fod a wnelai y Pab â neb yn ysprydol, am nad oedd ond un "Cyfryngwr rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu." Cofia pawb am ffrewyll y Tywysog Bismark wedi hyny ar Jesuitiaid yr Allmaen, yr hyn a brawf fod ymyraeth amhrydlon yr Anffaeledig wedi effeithio yn groes i'w ddysgwyliadau ymhongar.

EI AFIECHYD.

Cadwodd ei enw ger bron y wlad o bryd i bryd, drwy ryw ffolineb newydd o'i eiddo; ac hyd ddydd ei farwolaeth ni pheidiodd ag amlygu mai hunanawdurdod, hunanogoniant a hunanaddoliant, yn enw lles a dyrchafiad ei Eglwys, ydoedd prif amcan a phrif ddybenion ei holl weithredoedd amryfal. Ust—dyma newydd prudd i Babyddiaeth yn cael ei daenu drwy'r gwledydd,—"Mae Pio Nono yn wael, a gobaith am ei adferiad ond bychan." Brithwyd papurau y teyrnasoedd a'r newydd yn ddyddiol; dadleuwyd y canlyniadau yn mhob cymdeithas, manwl ddyfalwyd pwy fyddai ei olynydd yn mysg penau coronog y ddaear; ond tra yr anadlai, ac hyd nes cyfarfyddai y celgynghor, nid oedd damcanion y naill na'r llall yn deilwng o ymddiried, ac nis gallasai yr hwn oedd ar ei wely angeu ddatod sôl y dyfodol, er ei fod ar drothwy y datguddedigaethau tragwyddol.

Pellebryn—Rhufain, Dydd Iau, 7fed o Chwefror, 1878. At y byd gwareiddiedig— Am haner awr wedi pump,

BU FARWY PAB PIUS IX.

Fflachiwyd y newydd i bob rhan o'r byd; derbyniwyd ef gyda theimladau gwahanol, a gwneid cyfalaf o hono yn ol y gwerth a roddid ar y dygwyddiad, a'i effaith ar wleidyddiaeth, moesoldeb a chrefydd ddatguddiedig. Gan rai bydd ei farwolaeth yn symudiad o'r Hen ddyn, ac yn gyflawniad llythyrenol o ddarostyngiad bwystfil Ioan y Difinydd. Ereill a'i hadgoffant gyda dagrau, oblegyd colli o honynt eu Tad a'u nawdd ysprydol. Fe allai y bydd rhai hefyd yn ymsythu ao yn ymddeffro i ryddid, wedi bod o dan gaethiwed hunllef oes; ond un peth a allwn sicrhau y bydd ei olynydd yn falch o'r urddas a feddianna ar ei ddyrchafiad i lenwi ei le. Bu farw! yr