PENNOD IV.
DRWY'R GOEDWIG.
"DEWCH ymlaen," gwaeddai Mapoma ar yr wyth dyn arall a gludai eu llwythi dan siarad a chwerthin.
"O'r gore, yr ydym yn dod," atebai un o honynt dan redeg. Dilynodd y lleill ef. Ar y pren a gariai Mapoma a Mulongoti rhyngddynt yr oedd hamoc o gynfas gwyrdd yn hongian, ac yn groes ar y polyn taenesid cynfas arall i gadw'r haul o wyneb y sawl a orweddai yn yr hamoc.
"We mune" (O, fachgen) "nid yw'n drwm iawn," meddai Mulongoti. "Ni fedr hi ddeall ein iaith ni, felly gallwn ddweyd y peth a fynnwn am dani."
"Mae'n ferr iawn," atebai Mapoma. Nid yw yn agos cyn dàled a'n merched ni. Efallai nad yw wedi gorffen tyfu."
Erbyn hyn daethant hyd at y lleill ac am beth amser cerddasant ymlaen y naill ar ol y llall,—deg dyn cryf, croenddu. Chwarddent a siaradent yn llawen oherwydd yr oeddent ar eu ffordd adref. Ni falient ddim am y tair wythnos o gerdded oedd o’u blaen oherwydd yr oedd cartref ar ddiwedd y daith a chroesaw gwraig a phlant a chyfeillion. Cludai