Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/308

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwreiddiol,—ar ei ben ei hun, ac yn byw crefydd ysbrydol. Dywedai Mr. Joseph Davies, Wernddu, mab Rhydmarchogion, a brawd Ruth, mewn llythyr a dderbyniais oddiwrtho, "Y mae gennyf feddwl uchel o hono fel Cristion. Yr oedd yr holwr ysgol goreu yn ei ddydd, a chefais fwynhad a mantais fawr oddiwrtho fel holwr. Pregethai nes deffro cydwybodau, a chanai yn naturiol a melys. Yr oedd un diffyg mawr ynddo—gormod o sarcasm, ac oherwydd hynny, a'i duedd i feirniadu mewn geiriau llym, ni enillodd y werin bobl i ymserchu yn fawr ynddo."

Cafodd yr Ehedydd oes hir a llafurus, eithr canodd ar ei hyd, a phan yn 84 mlwydd oed ehedodd i "wlad yr haf." Huned yn dawel hyd y bore mwyn pryd na bydd "cnawd yn wellt," ac na bydd eisiau cynhorthwy ei emyn mawr.