Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR.

COSTIODD y llyfr hwn imi lawer o lafur am rai blynyddoedd. Gwn ei fod yn amherffaith. Bob yn dipyn y deuir o hyd i'r gwir am yr hen emynwyr; daw rhywbeth newydd i'r golwg o hyd, eithr teimlaf fod yn rhaid cau pen fy mwdwl rywbryd. Gwelir yn y llyfr ol llawer o ymchwil a pheth beirniadu. Ysgrifennais ar gyfer y werin yn fwyaf arbennig, ond hwyrach fod yn y gwaith rai pethau na ŵyr pob llenor amdanynt.

Canwyd amryw emynau didramgwydd, ac ambell un gwir dda, onid anfarwol, gan nifer lluosog iawn, megis Hugh Jones, Maesglasau; Evan Jenkins, Llansamlet; Ioan Dafydd, Caio; Josiah Jones, Brynmair; W. Williams, Llanbrynmair; Thomas Lewis, Talyllychau; Jane Hughes, Mary Owen, Alun, Islwyn, Emrys, Roger Edwards, Gwilym Marles, ac eraill. Eithr prin yr hawlia neb ohonynt eu rhestru ymhlith prif emynwyr Cymru. Petai galw, nid anodd fyddai rhoddi llyfr ar emynwyr yr ail ddosbarth.

Diolchaf yn gynnes iawn am lawer o help i Mr. Ifano Jones, M.A., a Swyddogion y Llyfrgell Genedlaethol, y Prifathro J. H. Davies, y Parch. R. S. Rogers, B.A., ac yn arbennig i'r Parch. Thomas Shankland, M.A., am ddarllen traethawd cyn ei argraffu, a rhoddi imi lawer awgrym gwerthfawr, ac i'r Parch. Thomas Hughes am gywiro'r proflenni.

EVAN ISAAC.

Aberystwyth,

Ionawr, 1925.