Tudalen:Prif Feirdd Eifionydd.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Robert ap Gwilym Ddu.

MAE yn debyg nad oes yr un plentyn o Gymro nad yw yn medru yr emyn sydd yn dechreu gyda'r llinell,—

"Mae'r gwaed a redodd ar y groes."

Ac nid oes yr un plentyn meddylgar na charai wybod rhywbeth am awdur yr emyn anfarwol. Ei awdur yw Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu), a anwyd yn y Betws Fawr, ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd, yn y flwyddyn 1767. Er fod bellach agos i gant a hanner o flynyddoedd er hynny, anrhydeddir enw y bardd hwn heddyw, cenir ei emynau, a darllenir ei waith. Hyn ddylai fod nod pob un ohonoch, sef cyflawni rhyw waith da fydd yn anfarwol, ac felly erys eich enwau yn berarogl i'r oesau a ddel.

Mae yr enw Betws Fawr yn adnabyddus drwy Gymru heddyw, am mai yno yr oedd cartref y Bardd Du. Mynnwch fyned i weled y lle. Yn un o'r caeau. gwelwch Faen Hir ardderchog sydd yn cuddio llwch un o'r hen Dderwyddon, neu yn nodi maes brwydr ym yr oesau gynt. Bu Robert Williams, pan yn fachgen, yn chware llawer o amgylch y Maen Hir yma, a thebyg iddo gael aml i godwm oddiar ei war. Cenwch yma un o emynau y bardd, adroddwch ran o'i farwnad i'w ferch, syllwch yn fanwl ar yr olygfa hardd geir yma ar y mynyddoedd a'r môr, ac ond odid na ddy- chwelwch o'r fan yn feirdd i gyd.

Amaethwr gwladaidd yr olwg arno oedd Robert ap Gwilym Ddu, ond dyn neulltuol mewn gwybodaeth a gallu. Yr oedd son am dano ledled y wlad, a chyrchai llawer o feirdd a dynion dysgedig i'w weled.