Tudalen:Prif Feirdd Eifionydd.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywed ef ei hun am yr adeg yma, "Yr oeddwn yn rhy wael a gwanaidd i ddarllen dros y rhan fwyaf o'r flwyddyn gyntaf o'm carchariad yn y gwely, ond byddai fy mam dyner yn darllen cyfran o'r Beibl bob dydd, a rhyw lyfrau buddiol eraill, yn neilltuol gwaith Prichard Llanymddyfri.

Y llyfr cyntaf wyf yn gofio i mi ddarllen fy hunan oedd Taith y Pererin' gan Bunyan." Ymhen amser maith daeth i allu cymeryd ychydig fara a phethau eraill yn ymborth, ond ni bu fawr o gyfnewid ar ei waeledd am flynyddau.

Er hynny parhai i ddarllen a chwilio am wybodaeth.

Bu am bum mlynedd ar hugain yn ei wely heb godi o gwbl. Beth feddyliwch chwi am hyn? Mae yn bur anodd aros yn y gwely am ddiwrnod, pan y mae eisieu mynd allan i chware, onid yw?

Ar ol pum mlynedd ar hugain o orwedd, daeth Sion Wyn ddigon cryf i godi i'r gadair am ychydig amser, a chyn hir gallai oddef ei gario allan. Y tro cyntaf y bu yn yr ardd dywedodd, "O mor brydferth ydyw yr olygfa, yr wyf yn teimlo fel pe ym Mharadwys."

Pan gryfhaodd ddigon i fyned allan yn gyson rhoddodd ei gyfeillion gerbyd bychan yn anrheg iddo. Byddai bechgyn y pentref wrth eu bodd yn ei dynnu yn ei gerbyd bychan. Ond er iddo barhau i fyned allan am ychydig bob dydd am lawer o flynyddoedd, yn y gwely y byddai y rhan fwyaf o'i amser gan ei fod mor wan.

Yr oedd ei wely yn destyn syndod i bawb a'i gwelai. Gwely wainscot hen ffasiwn wedi ei lenwi â llyfrau amgylch ogylch.

Er yr holl wendid a gwaeledd bu ei fywyd yn fywyd o lafur dyfal. Astudiodd Saesneg, Rhifyddiaeth, Morwriaeth, a Seryddiaeth. Yr oedd tuag ugain oed pan ddechreuodd ddysgu Saesneg. Ond er hynny, llwyddodd i ddysgu'r iaith yn drwyadl, er nad oedd ganddo ond geiriadur i'w gynorthwyo.