Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pethe'r oedd o'n eu deud neithiwr? Wedi cynhyrfu 'roedd o, a 'does dim isio i ti sôn gair am y peth wrth neb. Gwyddost mor glyfar ydi dy dad, yn wir, rhy glyfar ydi o, a dene sut nad ydi pobol ddim yn i ddallt o. A bydae Pwll y Gwynt yn darfod, mi feder dy dad ddechre gwaith arall ar unwaith. Yn wir, y mae o'n mynd i ddechre un rai o'r dyddie nesa 'ma, fel y cei di weld, a mi fydd cystal arnom ni ag y bu hi 'rioed."

"Wyddoch chi, 'mam? 'rydw i'n teimlo'n rhyfedd—fedra i ddim deud mor rhyfedd 'rydw i'n teimlo. 'Rydw fel bydawn i wedi bod yn breuddwydio ar hyd f' oes, ac newydd ddeffro i realeisio sut y mae pethe. Wrth feddwl sut yr ydw i wedi byw, sut yr ydw i wedi ymddwyn at bobol gan mil gwell na mi fy hun, ac am fy airs, chwedl fy nhad, wn i ddim sut i ddangos wyneb i neb, a mae gen i'r fath gwilydd nes 'y mod i bron a marw! Meddyliwch be ddeudith pobol! y fath sport wnân nhw ohonom ni! A fedra i byth eu beio nhw am hynny. 'Chysges i winc dan saith o'r gloch y bore, a 'rydw i'n credu 'y mod wedi meddwl mwy neithiwr am bethe y dylaswn i fod wedi meddwl amdanyn nhw o'r blaen nag a feddylies drwy fy holl oes, a 'rydw i'n gobeithio 'mod i 'n dipyn callach nag y bûm i 'rioed."

"Mae'n dda gen i dy glywed di'n siarad fel ene, Susi. 'Roedd gen i ofn mai rhyw ymollwng a thorri dy galon y baset ti. Yn wir, mae dyn yn cael help yn rhyfedd, ond 'rydw i'n ofni dy fod di wedi cymryd atat yn ormod o lawer y peth a ddeudodd dy dad neithiwr. Mi ddeudith dyn yn 'i ffrwst bethe na ddyle fo ddim, ac y mae'r calla'n colli weithie. Erbyn i dy dad 'sbonio i mi neithiwr a bore heddiw, 'dydw i ddim yn gweld y bydd raid i ni—yn ôl fel y mae pethe'n edrach—newid dim ar yn ffordd o fyw, achos mae isio i ni gofio pwy yden ni o hyd, a bydae ni'n altro mi 'naen ddrwg i dy dad ac i ni'n hunen, a mi âi pobol i siarad yn bethma amdanon ni. 'Does harm yn y byd bod yn gall, fel 'roeddet ti'n sôn, a hwyrach y dylen ni drio peidio â bod mor strafigant, ond, hyd y