Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pheidio, hwyrach, â chadw cweit mor ddustant at rai tebyg i ti dy hun, a bod yn ffri, mae digon eto, wel di, o ddynion da i'w cael."

"Ymhle, 'mam? Wn i am neb mor wirion. A be wnawn i yn wraig i ddyn da?' rhyw ddoli fel fi! heb erioed arfer gwneud dim ond segura, gwisgo, a'm dangos fy hun? Pe cawn i'r cynnig fydde gen i mo'r gydwybod i dwyllo un dyn da. 'Rydw i wedi newid 'y meddwl am bopeth, 'mam, er neithiwr."

'Ddyliwn i wir! Mae gen i ofn fod gormod o natur dy dad ynot ti—meddwl rhy fach ohonot dy hun. Felly mae dy dad; fel y deudes i wrtho lawer gwaith, a 'ddyliwn dy fod tithe'n mynd ar 'i ôl o. A be ydi dy feddwl di'n d'alw dy hun yn ddoli? Mi fase'n o arw gen ti glywed neb arall yn deud hynny, mi dy wranta."

"Dim o gwbwl, 'mam. Be ydw i ond doli? Mi wyddoch o'r gore na ddaru mi 'rioed bobi, na golchi, cwcio, na smwddio, cynne'r tân na golchi'r llestri. 'Ches i 'rioed 'y nysgu i 'neud pethe felly, ond codlo efo miwsig—gwneud slipper tops—antimacassars, a rhw faw felly, a chael rhoi ar ddeall i mi o hyd fod rhywun mawr i ddwad i 'neud lady ohonof, ac yn y diwedd 'y nhad yn deud y bydde raid i mi ddwad i lawr beg neu ddau, a chymryd rhwfun y medrwn i gael gafael arno—miner cyffredin ne rwfun! O, 'mam, mae gen i gwilydd ohonof fy hun—'rydw i'n libel ar enw merch!

Wyddost ti be? 'roeddet ti'n deud gynne dy fod ti'n ofni bod dy dad yn drysu'n 'i synhwyre, ond yr ydw i agos yn siŵr dy fod ti'n drysu. Ond oes ene gannoedd o ferched sy wedi'u magu yn respectable na wyddan nhw ddim am y pethe'r wyt ti'n sôn amdanyn nhw. Gwaith morwyn ydi'r pethe ene, er nad oes dim harm fod pawb yn 'u medryd nhw. A siŵr ddigon, pwy bynnag a briodi di, na chei di forwyn?

"'Dydi miners ddim yn cadw morynion, mam."

Paid â chyboli, da ti, a phaid â harpio ar y gair, ene ddeudodd dy dad yn 'i wylltineb neithiwr. Mi fydde'n