Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PROFEDIGAETHAU

ENOC HUWS

PENNOD I

Cymru Lân.

MAB llwyn a pherth oedd Enoc Huws, ond nid yn Sir Fôn y ganwyd ef. Yr oedd man ei enedigaeth yn nes i Loegr, a'r trigolion yn siarad meinach Cymraeg, yn fwy diwylliedig, a chaboledig yn eu tyb eu hunain, er nad yn fwy crefyddol. Ni chanwyd y clychau ar ei enedigaeth, ac ni welid ac ni chlywid dim arwyddion o lawenydd o unrhyw natur. Ni chododd y ffaith mai bachgen ac nid geneth ydoedd gymaint â gwên ar wyneb un o'r perthnasau pan glywsant am ei ddyfodiad. Yn wir, maentumiai rhai o'r cymdogion na wyddid, am rai dyddiau, i ba ryw y perthynai. Y rheswm am yr holl ddifrawder hwn oedd nad oedd neb yn ei ddisgwyl, nac ar neb eisiau ei weled. Dywedais ormod: yr oedd un yn ei ddisgwyl. Pa nifer o nosweithiau digwsg-o ofid, o gyni ac arteithiau meddwl, o edifeirwch chwerw a gwirioneddol, ac o hunanffieiddiad, a gostiodd y disgwyliad hwnnw, Duw yn unig a ŵyr! Gwn fod hyn yn bwnc tyner a llednais i'w grybwyll, ac mai mwy hyfryd yw gwrando ar leisiwr da yn canu "Cymru lân, gwlad y gân," a rhoi encore iddo, ac iddo yntau roddi i ni "Hen wlad y menyg gwynion." Ond ynfytyn fyddai'r dyn a dybiai fod holl hanes Cymru yn y ddwy gân. Pan oeddwn hogyn, byddai'r gŵr duwiol hwnnw, Abel Huws, pan fyddai yn yr hwyl yn y capel, yn cau ei lygaid, yn enwedig pan fyddai'n canu, nes i mi fynd i gredu bod cau'r llygaid yn arwydd sicr o dduwioldeb. Yr wyf wedi