Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Rwyt ti am fod yn rhwbeth digon gwirion, mi wranta. Ond ddaru mi 'rioed ddisgwyl dy glywed di'n siarad fel hyn, Susi. 'Rwyt ti wedi f'ypsetio i'n arw, a 'rwyt ti bron gneud i mi gredu na wyddost ti ddim am ddylanwad crefydd ar dy galon. Yr ydw i wedi deud lawer gwaith wrth dy dad y dylase fo fod wedi cymryd mwy o drafferth i dy ddysgu di mewn egwyddorion. crefydd, a mae hynny'n ddigon amlwg erbyn hyn. A beth i'w feddwl ohonot ti, ni wn i ddim. Ond y mae hyn yn ddigon plaen er cymin o siamplau da 'rwyt ti wedi eu gweld, fod dy ysbryd di yn ddiarth iawn i bethau crefydd, ne faset ti byth yn siarad fel 'rwyt ti wedi gneud."

"Yr ydech chi'n quite right, 'mam. Wn i ddim am ddylanwad crefydd y Beibl. Os ydw i'n dallt y Beibl—hunanymwadiad, cariad at Dduw, gostyngeiddrwydd, a gweithredoedd da ydi crefydd, a mae 'mywyd i, hyd yn hyn, wedi bod mor ddieithr i bethe felly â bywyd Lwsiffer ei hun. A deud fy meddwl yn onest wrthoch chi, 'mam, 'does dim mwy o debygrwydd rhwng y grefydd a ddysgwyd i mi a chrefydd y Beibl, nag sydd rhwng Beelsebub a Gabriel."

Susi, be sy arnat ti, dywed? Wyt ti mewn sterics, dywed? i fod yn tyngu ac yn rhegi ac yn enwi'r pethe hyll ene? ydi'r ysbryd drwg wedi dy feddiannu di, dywed?"

"Dydw i ddim nac yn tyngu nac yn rhegi, ac am sterics, wn i ddim beth ydi hwnnw."

"Wel, be ydi—dy—feddwl—di—dywed?"

"Fy meddwl i ydi hyn—os gwêl yr Arglwydd yn dda i mi gael byw, na fydda i byth eto yn Humbug. Er neithiwr, 'mam, yr ydw i wedi cael gole newydd ar bopeth, a mae gen i gwilydd ohonof fy hun."

Felly y gelli di, os gwn i be ydi be. Er clyfred ydi dy dad, 'naeth o 'rioed fwy o fistêc na sôn am 'i helyntion yn dy glyw di neithiwr, achos wyddost ti ddim byd am fusnes, a 'does dim posib rhoi dim yn dy ben di, a feder