Perthynai i Bwll y Gwynt ŵr o'r enw Sem Llwyd. Heblaw ei fod yn grefyddwr ac o gymeriad dichlyn, ystyrid Sem yn oracl ar y dull gorau o weithio. Cyndyn iawn a fyddai Sem i ddweud ei farn ar unrhyw beth oni byddai'n siŵr o'i fater. Pan benderfynid gyrru mewn cyfeiriad newydd yn y Gwaith, cadwai Sem ei farn hyd nes ceid prawf teg, ac yna datganai ei syniad yn ddi-floesgni, a byddai, wrth gwrs, bob amser yn gywir. Ni wybuwyd erioed i Sem fethu yn ei farn. Pan wesgid arno gan Capten Trefor, am ei syniad ymlaen llaw, gofalai Sem am roi digon o os o'i gwmpas, fel, pa fodd bynnag y trôi'r anturiaeth allan, y byddai barn Sem yn iawn. Ynglŷn â gweithiad Pwll y Gwynt ni phetrusai Sem ddweud ei farn yn groyw ar un peth, a da y gwyddai nad oedd y peth hwnnw o fewn terfynau posibilrwydd i'r Cwmni byth ei gario allan. Pan gyfarfyddai'r gweithwyr yn dwr i gael mygyn—yr hyn a wnaent yn fynych—oblegid nid oeddynt yn credu mewn gorweithio, ac yr oeddynt oll yn gydnabyddus â'r pennill:
Y mae chwech o oriau'n ddigon
I bob un o'r miners mwynion,
I fod rhwng y dyrys greigiau
Mewn lle myglyd yn llawn maglau.
Pan gyfarfyddent felly, mynych y rhoddai Sem y wedd fwyaf doeth ar ei wyneb, ac y datganai ei farn yn glir i wrandawyr llawn edmygedd ar yr hyn y dylasai'r Cwmni fod wedi ei wneud.
Yr oedd Sem Llwyd yn un o'r rhai a gymerasai'r Capten i'w gyfrinach, ac nid oedd heb wybod am ddrych-feddyliau gwyllt Sem. Pan gaffai'r Capten Sem ar ei ben ei hun, rhedai'r ymddiddan rywbeth yn debyg i hyn : Wel, Sem, beth ydyw'ch barn am yr hen Waith yma erbyn hyn?"
"Yn wir, Capten, mae'n anodd deud, a bod yn siŵr." "Yr wyf yn credu, Sem, eich bod chwi a minnau'n synio yn lled debyg am Bwll y Gwynt. Pe cawswn i