Deudwch i mi, oes ene rw wir yn y stori fod merch y Capten ac Enoc Huws yn codlo rhwbeth?"
Wel," ebe Sem, "hwyrach y medrwn i roi tipyn o oleuni ar hynny bydawn i'n dewis, ond y mae pobol yn amal yn siarad dan 'u dwylo, Thomas."
"A mae rhwbeth yn y peth ynte?" ebe Thomas.
"Ddeudes i mo hynny," ebe Sem.
"A chelwydd ydi'r cwbwl ynte?" gofynnai Thomas. "'Ddeudes i mo hynny chwaith," ebe Sem.
"Wel, be ydech chi'n 'i ddeud, ddyn? Wyddoch chi be, Sem, 'rydech chi'r meinars ma wrth siarad am y pethe mwya sumpl yn trio 'u gneud nhw cyn dwlled â bol y fuwch ddu, na ŵyr neb ar chwyneb y ddaear lle 'rydech chi o'i chwmpas hi."
'Dydi'r pethe sy'n ymddangos yn sumpl i rai pobol ddim yn sumpl i bawb, Thomas," ebe Sem. "A 'dydi dyn ddim i ddeud popeth a ŵyr o, ne mi fydde pawb cyn galled â'i gilydd. A heblaw hynny, Thomas, y mae i bethe eu hamser ac i amser ei bethe."
"Wel, wyddoch chi be, Sem, yr ydech chi'n un doeth hefyd! Mi fydda inne, fel ffwlcyn, yn deud popeth wn i'n ffrwt, a mi fûm yn synnu lawer gwaith na faswn i wedi dwad i scrâp cyn hyn," ebe Thomas.
""Thale hi ddim i bawb fod felly, Thomas," ebe Sem. "Pe baswn i'n un felly mi fase ambell i gynllun wedi'i andwyo cyn iddo addfedu. Mi fydd ambell un yn trio tynnu oddi arna i, ond mi fydda'n cymryd pwyll, ac yn cadw'r cwbwl i mi fy hun nes daw'r amser priodol."
'Rydech chi felly, Sem," ebe Thomas, " yn meddwl bod rhwbeth yn y stori am ferch y Capten ac Enoc Huws, ond bod yr amser heb ddwad i ddeud hynny?"
"'Ddeudes i ddim ffasiwn beth, Thomas," ebe Sem, "ond mi ddeuda hyn, fod o'n biti o beth pan ddeudith rhwfun rwbeth wrthoch chi na fasech chi wedi dysgu 'i gadw fo i chi'ch hun. Ond mae hynny i'w briodoli, yn ddiame, i ddiffyg addysg ym more'ch oes."