yn ame hynny. Mae gan Capten Trefor wybodaeth a phrofiad; a be os ydi'r ddau'n consyltio â'i gilydd gyda golwg ar ryw fentar newydd?"
"Ai gesio 'rydech chi, Sem?" gofynnai Thomas yn wyliadwrus.
"Gesio? nage, fydda i byth yn gesio, Thomas, a dda gen i mo'r bobol sydd yn gesio heb sail yn y byd am y pethe 'y maen' nhw'n 'u deud," ebe Sem.
"A mae hi'n ffact, ynte, fod y Capten ac Enoc ar gychwyn mentar newydd?" ebe Thomas.
"'Ddeudes i ddim fod o'n ffact, Thomas," ebe Sem, pan fydd rhywbeth yn ffact 'does dim isio 'i ddeud o—mae o'n eglur i bawb. Ond y mae rhw bethe nad oes neb ond y rhai sy'n gallu gweled ym mhellach na'u trwynau yn 'u gwybod nhw. Mi wyddoch hyn, Thomas, nad oes neb yn gwybod cymin o feddwl y Capten â fi? Ydech chi'n 'y nallt i, Thomas?"
"Wel ydw, os ydw i hefyd," ebe Thomas. "Ych meddwl chi ydi hyn, Sem—fod y Capten o'i chwmpas hi yn trio cael Enoc Huws i mewn i gychwyn rhw fentar newydd?"
"Dim ffasiwn beth, Thomas, a chymerwch ofal na ddeudwch chi wrth neb 'mod i'n deud hynny," ebe Sem.
"Mae'n dda gen i glywed hynny, Sem," ebe Thomas, "achos y mae gen i barch calon i Enoc Huws. 'Rydw i'n credu bob amser mai dyn syth a gonest ydi Enoc Huws. Mae o'n fachgen sy wedi dwad yn 'i flaen yn ods, a hynny mewn ffordd gyfiawn. Wyddoch chi be? yr ydw i wedi prynu dialedd o fwyd moch gan Enoc, a weles i 'rioed ddim o'i le arno. Maen' nhw'n deud i mi, Sem, y medre Enoc Huws fyw ar 'i arian pan fynne fo. A dene sy'n od—mae o'n un o'r rhai gore yn y capel. Wn i ddim sut mae hi efo chi, y Sentars acw, ond efo ni, os bydd dyn yn dwad yn 'i flaen dipyn efo'r byd 'ma, welwch chi gip arno yn y capel, ond tipyn ar y Sul. Ond am Enoc, anamal y mae o'n colli moddion. Gobeithio'r annwyl nad ydi o ddim yn mynd i ddechre.