PENNOD XXI
"Vital Spark"
GADAWODD bugeiliaeth Rhys Lewis argraff dda ar feddwl yr eglwys a'i galwodd i'w gwasanaethu. Ac ni allai lai; oblegid heblaw ei fod yn ŵr ieuanc galluog ei feddwl a grasol ei galon, meddai ystôr helaeth o synnwyr cyffredin—nwydd anhepgor i fugail, ac, yn wir, i bob un y bydd a wnêl â thrin dynion o wahanol fathau. Ni fu ei wendid corfforol o nemor, os bu o ddim, anfantais i'w ddylanwad. Hwyrach i'w wendid maith ddiarfogi'r rhai oedd wrth naturiaeth dipyn yn bigog, ac ennyn cydymdeimlad cywir a chynnes eraill. Beichiodd ei hun â chymaint o waith ag a allai ei ysgwyddau ei ddal, a rhyfeddai llawer pa fodd yr oedd yn gallu paratoi pregethau mor rhagorol. Yr oedd ei feddwl yn ysgogi mor nerthol a phenderfynol fel na pheidiodd â mynd yn ei flaen pan ballodd ei iechyd. Parodd hyn i'w farwolaeth ymddangos yn sydyn i laweroedd, er nad oedd felly.
Wedi marw Rhys Lewis ymgysurai'r eglwys fod ganddi un dyn synhwyrol a chrefyddol, ac abl i'w harwain ym mherson Dafydd Dafis. Hynny ydyw, yr oedd Dafydd Dafis yn un a allai gadw seiat cystal â nemor bregethwr. Dyn yr un llyfr, bron, oedd ef. Anfynych y byddai'n gweled newyddiadur, ac ni byddai'n ceisio dilyn yr amseroedd; ond yr oedd yn dilyn y Cyfarfodydd Misol a'r Cymanfaoedd yn gyson. Ni welid Dafydd byth mewn cyngerdd nac eisteddfod, ond, hyd y gallai, byddai ym mhob cyfarfod gweddi a seiat. Nid ymyrrai â gwleidyddiaeth, ac ar adeg etholiad rhoddai ei lais, mewn ffydd, dros yr un a gefnogid yn fwyaf cyffredinol gan grefyddwyr. Yn ei olwg ef nid oedd bywyd yn dda i ddim ond i fod yn grefyddol, ac yn grefyddol yn yr ystyr a roddai ef i grefydd. Yr oedd ef yn gul ryfeddol, ac ar yr un pryd yr oedd rhyw fath o ddyfnder ynddo. Ffarmwr digon gweddol oedd, ac onid oedd