Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wella eto. Pe buasai pob pregethwr yn cymryd cymaint o ddiddordeb mewn cerddoriaeth â Mr. Simon, fe fuasai gwedd wahanol ar ganu cynulleidfaol ein gwlad."

"Siwr iawn," ebe Didymus. "Gresyn na fuasai'r pregethwyr a phawb ohonom yn gerddorion. Yr oeddwn yn edmygwr mawr o Rys Lewis, ond yn ôl ei gyfaddefiad ef ei hun, ni wyddai fwy am gerddoriaeth na brân. Y gŵr gorau, yn ddiau, fel bugail, fyddai un y byddai'r nifer fwyaf o ragoriaethau yn cydgyfarfod ynddo. Mae'n perthyn i eglwys Bethel nifer fechan—a gresyn na fuasai yn fwy o wŷr ieuainc â thipyn o chwaeth ynddynt at lenyddiaeth, a da a fyddai i'r bugail fod yn dipyn o lenor. Tybed a oes tuedd yn Mr. Simon at lenyddiaeth?

"'Rwyf yn siŵr ei fod yn llenor," ebe'r Eos, er na ddaru o ddim dweud hynny wrthyf. Yn ddamweiniol fe ddywedodd fod arno eisiau mynd adre yn gynnar, am fod ganddo waith beirniadu rhyw draethawd mewn tipyn o 'Steddfod."

"Ddaru Mr. Simon, mae'n debyg," ebe Didymus, "ddim digwydd dweud beth oedd testun y traethawd? Fe fuasai hynny yn fantais i ni ddeall ym mha gangen o lenyddiaeth yr ystyrir Mr. Simon yn feirniad."

"Do, 'neno dyn, os medra 'i gofio fo," ebe'r Eos. "Rhwbeth am y Dilyw, ac ar y cwestiwn a oedd yr Eliffant yn yr arch ai nad oedd—rhwbeth fel ene."

"Testun rhagorol, a dyrys hefyd," ebe Didymus, "'rwyf wedi pondro llawer ar y pwnc yna fy hun. Ond gresyn na fuasent wedi ychwanegu—pa un a oedd y morfil yn yr arch ai nad oedd. Mae cryn ddryswch ynghylch y cwestiwn yna hyd yn hyn, a phe gellid ei benderfynu, taflai lawer o oleuni ar faint yr arch, a'r hyn a feddylir wrth' gufydd.' Ond mae hyn yn eglur—yr ystyrir Mr. Simon yn ei gartre yn naturiaethwr ac yn hanesydd, os nad yn ddaearegwr hefyd. Faint oedd y wobr a gynigid ar destun fel yna, tybed? Ddaru Mr. Simon ddim digwydd sôn hwyrach?