Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amrywiol nodweddion a thueddiadau aelodau a chynulleidfa Bethel—a ydyw Mr. Simon—ag i chwi roi barn onest—yn hoff o parties? a oes ganddo lygad at wneud arian? a fedr o chware cricket? a fedr o chware cardiau? a fedr o chware billiards? neu, mewn gair, a ydi o'n perfect Humbug?"

Neidiodd yr Eos ar ei draed, gafaelodd yn ffyrnig yn ei het, a chan edrych yn ddirmygus ar Didymus, ebe fe: "Yr Humbug mwya adwaenes i ydech chi, Thomas. Wyr neb lle i'ch cael chi, a phan fydd rhwfun yn meddwl ych bod chi'n fwya difrif, yr adeg honno y byddwch chi'n cellwair fwya. 'Rydech chi'n trin pobol cystal a gwell na chi'ch hun, fel bydae nhw blant, ac yn ych meddwl ych hun yn rhwfun. Mi gymra fy llw bydasen ni'n meddwl am gael yr Apostol Paul yn fugail i Bethel, y buasech chi'n gneud gwawd o'r idea. (Certainly, ebe Didymus.) 'Rydech chi'n sôn llawer am hymbygoliaeth, ond er pan ydw i'n flaenor, 'does neb wedi fy hymbygio i fel chi, a dalltwch, 'dydw i ddim am ddiodde dim chwaneg o hynny, ac os ydi Dafydd Dafis am ddal i'ch cefnogi chi—wel, boed felly—" a rhuthrodd yr Eos allan o'r tŷ, a chwarddodd Didymus yn uchel.

"Thomas," ebe Dafydd Dafis, "'wn i beth i'w feddwl ohonoch chi. Mae gen i feddwl uchel o'ch galluoedd chi, a mi wn ych bod chi'n llawer mwy craff na fi, ac y gallech chi fod yn llawer mwy defnyddiol gyda'r achos bydae chi'n dewis—er ych bod chi'n ddefnyddiol iawn yrwan efo'r Ysgol Sul. Ond rywfodd yr ydech chi'n chware efo popeth—yn chware efo'r pethe mwya difrifol, a mi wn eich bod wedi brifo Phillips yn dost heno. Yr ydech chi ar fai, Thomas."

"Chware, Dafydd Dafis?" ebe Didymus, "onid chware y mae pawb? onid chware ydyw popeth y bywyd yma?"

"Na ato Duw!" ebe Dafydd yn gyffrous. "Nid chware ydi popeth, ne be ddaw ohonof i! Ydech chi ddim yn meddwl deud mai chware ydi crefydd? mai