PENNOD XXIV
Dafydd Dafis a'r Seiat Brofiad
WEDI clywed Didymus yn adrodd hanes yr ymgom a groniclwyd yn y bennod ddiwethaf, tybiais y buasai Dafydd yn teimlo yn friwedig, ac euthum i ymweled ag ef. Nid oedd Dafydd yn rhyw hen iawn, ac eto yr oedd rhywbeth yn ei olwg oedd yn peri i mi feddwl am yr oes o'r blaen, a phan feddyliwn am rai o'i syniadau, yr oedd yn ymddangos i mi fel un wedi ei adael yn rhy hir yn y byd i allu bod yn gyfforddus ynddo.
Er nad oedd yn deall ond y nesaf peth i ddim Saesneg, camgymeriad a fuasai ei alw yn ddyn dwl. Nid wyf yn sicr na fu ei anfedrusrwydd yn yr iaith Saesneg o beth mantais iddo, yn enwedig gyda'i fistar tir. Un tro—yr oedd hyn cyn bod sôn am "ryfel y degwm "—yr oedd Dafydd wedi bygwth y Person na thalai ef y degwm. Wrth wneuthur hynny, gwyddai y cynhyrfai lid y mistar tir, ac y byddai yn sicr o ymweled ag ef rai o'r dyddiau nesaf i'w ddwrdio. Nid oedd ar Ddafydd eisiau ymddadlau na ffraeo ag ef, ac yr oedd yn cadw golwg amdano. Ac un bore dacw my lord yn dyfod yn ysbardunog a brochus ar gefn ei geffyl glas. Gwelodd Dafydd ef yn dyfod, ac ebe fe wrth ei nith:
"Mary, cerdd i'r llofftydd yna i edrach weli di rwbeth isio'i wneud, a phaid â dwad i lawr nes gweli di'r gŵr acw yn troi pen ei geffyl tuag adre," ac allan ag ef i gyfarfod â'r mistar tir.
Ymholiad cyntaf y mistar oedd am Mary i gyfieithu, a dywedodd Dafydd ei bod wedi mynd i rywle ar i fyny, yr hyn, wrth gwrs, ni ddeallai'r mistar tir, a dechreuodd dywallt allan ffrwd o Saesneg. Yr oedd y gair tithe yn cael ei fynychu yn ddidor, a phan gafodd Dafydd le i roi ei big i mewn, atebodd yn hamddenol:
"'Dydw i'n gwybod dim byd, syr, am eich' tai' chi, oddieithr y Tŷ Coch yma, a mae ar hwn, byd a'i gŵyr, isio ripârs yn enbyd."