fyned i'r seiat a'r cyfarfod gweddïo, ond byddai raid i ni, y siopwyr, golli'r râs yn fuan, pe baem yn mynd yn gyson i gyfarfodydd canol yr wythnos."
"Pa râs 'r wyt ti'n cyfeirio ati?" gofynnai Dafydd. "Wel, y râs efo'r byd—râs masnach," ebe fi.
"Ho," ebe fe, "ai dyna dy râs di? Ai am y cynta efo'r byd ydi dy bwnc mawr di?"
"Dyletswydd pawb, Dafydd Dafis," ebe fi, "ydyw edrych ar ôl ei fywoliaeth."
"Gwir," ebe Dafydd, "ond y mae dyletswydd fwy na honno yn bod. Rhaid i ddyn edrych ar ôl ei fywoliaeth; ond fe ddylai edrych mwy ar ôl ei fywyd. Mae arnaf ofn, mai pwnc pobol y dyddiau yma ydyw bywoliaeth ac nid bywyd."
"'Dydech chi ddim yn dweud, Dafydd Dafis, fod mynd i'r seiat yn anhepgor i gael bywyd tragwyddol?" gofynnais.
"Na, ydw i ddim lawn mor ddwl â hynny. Mae miloedd a miliynau, mi obeithia, wedi cael bywyd tragwyddol na fuont erioed mewn seiat, fel y deëllir seiat ymhlith Ymneilltuwyr Cymru. Mi glywais ambell ffarmwr yn dweud y gallai ef wneud yn burion heb fynd i'r ffair a'r farchnad; ond chydig o raen a welais i ar neb ohonyn nhw. Mae rhywbeth tebyg iawn, mae arnaf ofn, wedi meddiannu meddwl llawer o grefyddwyr y dyddiau hyn maent yn tybio y gallant fyw yn grefyddol heb fynd i foddion gras canol yr wythnos. Os ydynt yn gallu gwneud hynny, yr wyf yn cenfigennu atynt—rhaid eu bod yn well pobol na ni sydd yn ceisio dilyn y moddion yn weddol gyson—oblegid mi wn mai profiad y rhai sydd yn dilyn y moddion ydyw, mai pell iawn ar ôl y maent yn eu cael eu hunain—nid yn unig yn yr hyn y dylent fod o ran eu bywyd ysbrydol, ond hefyd yn yr hyn y dymunent fod. Dyna fel y byddai yn clywed pobol y seiat yn siarad, a dyna ydyw fy mhrofiad i fy hun. Ond y mae'r nifer fwyaf o grefyddwyr y dyddiau hyn yn gallu byw y bywyd ysbrydol, ac ar delerau da â