bucheddol, yr un mor analluog i ddatgan dim mwy nag argyhoeddiad graddol nes cyrraedd rhyw bwynt o berswadiad i'w cynnig eu hunain i'r eglwys. Beth y mae hyn yn ei ddysgu i ni? Wel, mi allwn feddwl, ei fod yn dysgu na allwn ddisgwyl, ond yn anfynych, am brofiadau cyffrous a thanllyd fel a geid ers talwm; ond, yn sicr, fe ellir disgwyl am brofiad dwfn a distaw. Heblaw hynny, y mae'n ein dysgu mai prif amcan ein cyfarfodydd eglwysig, erbyn hyn, a ddylai fod creu meddylgarwch, myfyrdod ac ymchwiliad beunyddiol i wirioneddau ysbrydol, a hynny yn y fath fodd ag a greai ddiddordeb ym mhob dosbarth o'n haelodau. Ni ddylem adael y cyfarfod mwyaf cysegredig a feddwn i siawns a damwain. Dylai'r mater sydd i fod dan sylw, fod yn hysbys i'r aelodau cyn mynd i'r cyfarfod. Mae toreth o faterion teilwng at ein galwad—maent yn hen, ond bob amser yn newydd i'r rhai sydd yn teimlo pryder am eu cyflwr—megis y rhai canlynol: Pa rai yw nodau gwir argyhoeddiad? Ym mha bethau y mae'r eglwys a'r byd yn debyg ac yn annhebyg? Pa rai yw arwyddion cynnydd a dirywiad ysbrydol? Pa fodd y gellir cyrraedd sicrwydd gobaith bywyd tragwyddol? a llu o faterion cyffelyb. Nid wyf fi'n credu mai'r ffordd orau i gadw seiat ydyw ymgystadlu am gofio pregethau. Os adroddir rhywbeth o'r pregethau, adrodded y brawd sylw aeth yn syth i'w galon ef ei hun—sylw a wnaeth iddo symud yn ei sêt—ac nid adrodd llarp hir, yn llawer mwy annhaclus nag yr adroddwyd ef gan y pregethwr. Cwestiwn o bwys ydyw, pa beth ydyw'r achos fod nifer mor fychan yn mynychu'r seiat. Un rheswm, yn ddiamau, ydyw'r ofn sydd yn mynwesau rhai gwylaidd eu hysbryd, y gofynnir iddynt ddweud rhywbeth. Pe câi'r dosbarth hwn sicrwydd y caent fod yn wrandawyr yn unig, deuent yn lled gyson, hwyrach, i'r seiat. O'm rhan fy hun, er y buaswn yn rhoi cyfleustra ac anogaeth i bawb ddweud yr hyn fyddai ar ei feddwl, ni fuaswn yn gwasgu am brofiad na dim arall gan y rhai y gwyddys
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/164
Gwedd