Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'n dechre mynd dipyn i oed, achos yr ydw i wedi gwrthod ych gwell chi. Ond mi gewch chi sefyll at ych gair, syr, ne mi fydd yn difar gynnoch chi. A deud yn 'y ngwymed i ych bod chi'n caru'r hen lyngyren ene o Dŷ'n yr Ardd? Y ffifflen falch, ddiddaioni! Mi ddeuda i iddi pwy a be ydi hi pan wela i hi nesa, a mi wna! A mi geiff glywed ffasiwn un ydech chithe hefyd, y dyn twyllodrus gynnoch chi! Y chi'n galw'ch hun yn grefyddwr? Crefyddwr braf yn wir, pan fedrech chi dwyllo geneth myddifad a digartre! A 'ddyliwn ych bod chi wedi trio twyllo'r llyngyren ene o Dŷ'n yr Ardd? Oedd twyllo un ddim yn ddigon gynnoch chi? Ond 'rhoswch dipyn bach! mi geiff pawb wybod ych hanes chi, a mi gewch dalu'n ddrud am hyn! Os na sefwch chi at ych gair, mi fynna'ch torri chi allan o'r seiat, a mi'ch gna chi cyn dloted â Job, na fydd gynnoch chi 'r un crys i'w roi am ych cefn—a mi wna—cyn y bydda i wedi darfod â chi, y dyn dau-wymedog gynnoch chi."

Nid yw dweud bod Enoc, ar y pryd, yn druenus, ond disgrifiad gwan o'i sefyllfa. Agorai mil o waradwyddiadau posibl a thebygol o flaen ei feddwl, nes bod Enoc yn teimlo y buasai marw yn y fan a'r lle, bron, yn fwy dymunol yn ei olwg na byw; ac yn berffaith ddiystyr o'r canlyniadau, a chydag ehofndra a dynoliaeth nas dangosodd erioed o'r blaen, ebe fe, gydag ynni a theimlad:

Marged, mi fydde'n well gen i i chi blannu'r gyllell yna (yr oedd cyllell fara fawr ar y bwrdd yn ymyl Marged) yn 'y nghalon i na gwrando un gair amharchus am Miss Trefor. Deudwch y peth a fynnoch amdana i—neu trewch fi yn fy mhen â'r procar yna os liciwch, ond peidiwch â deud yr un gair—yr un sill am Miss Trefor. Y hi ydi'r eneth ore a phrydferthaf yn y byd, mi gymra fy llw! Mae ei henw yn rhy bur i'ch anadl llygredig chi ei swnio, a difai gwaith i chi fyddai glanhau ei hesgidiau. A sôn 'y mod i wedi gneud ffŵl ohonoch chi!—'Drychwch —gwrandewch be rydw i'n 'i ddeud wrthoch chi—bydase neb ond y chi a finne ac un wranwtang yn y byd, ac i mi