Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gallai Marged ddwyn ymlaen amryw bethau eraill oedd, ar yr wyneb, yn cadarnhau ei chyhuddiad. Ni byddai ganddo ef i wrthbrofi ei chyhuddiad ond ei air yn unig. A chaniatáu y byddai i ychydig o ddynion call ei gredu, yn sicr byddai'r mwyafrif o ddigon yn ochri gyda Marged. Byddai rhai yn fwy parod i gredu'r hyn a roddid yn ei erbyn am ei fod yn ddiweddar wedi dirywio yn ei ffyddlondeb yn y capel, gan briodoli fel rheswm am hynny iddo gydwybod euog. Gwelai Enoc yn ei fyfyrdodau yr holl bethau hyn cystal ag wedi digwydd. Pa fodd i wynebu'r amgylchiadau, ni wyddai, a suddai ei galon ynddo, a gofynnai: "A oes gofid fel fy ngofid i?" Pe buasai rhyw eneth ddeallgar, olygus a phrydferth yn ei gyhuddo o dorri amod â hi, buasai rhyw fymryn o gredyd ynglŷn â hynny er na fuasai sail iddo; ond yr oedd y meddwl bod Marged—wel, yr oedd hynny yn annioddefol.

Yn wyneb yr ystorm oedd o'i flaen er ei fod yn teimlo'n euog ac edifeiriol gerbron Duw am lawer o esgeulusterau—ni allai Enoc gael bai ynddo'i hun am ymserchu ym Miss Trefor—yr oedd hyn yn beth na allai ddim oddi wrtho, a heb fod yn fater o ddewisiad o gwbl. Ond yn awr gydag ochenaid a fu agos â chymryd ei enaid ymaith, ffarweliodd byth â'i hoff freuddwyd o wneud Miss Trefor ryw ddydd yn Mrs. Huws. Ond protestiodd ynddo ei hun—ac yr oedd ysbryd a nerth llw yn y protest—pa le bynnag y byddai ei drigfan—pa beth bynnag a ddigwyddai iddo y carai hi hyd y diwedd, ac y bendithiai hi â'i anadl olaf. "Ie," ebe Enoc, pa le bydd fy nhrigfan? Mae aros yn y gym—dogaeth hon allan o'r cwestiwn—fedra'i byth ddal y gwarth! Mae'r meddwl am fynd drwy'r holl helynt bron a 'ngyrru i'n wallgof! Beth fydd i mi yma ar ôl colli'r gobaith amdani hi? Dim! yr un llychyn, mi gymra fy llw! Mi werthaf bob scrap sy gen i ar fy helw, ac mi af i rywle—waeth gen i i b'le," a rhoddodd Enoc y canfed tro yn ei wely y noswaith honno.