swllt. Gwyddai pawb nad oedd ef wedi bod yn ŵr ariangar, na hyd yn oed yn neilltuol o ddarbodus. Yr oedd Jones, fel y dywedwyd, yn ysgolhaig, a gwnaeth apêl ysgrifenedig at ei gymhellwyr am danysgrifiadau. Ni bu ei apêl yn ofer; ond wedi iddo hel saith swllt—trawyd ef gan ei gydwybod. A oedd ef yn mynd i ddisodli'r criwr cydnabyddedig, oedd yn ŵr priod ac amryw blant bach ganddo? A oedd ef am gymryd ei fwyd oddi ar ei blât? "Na," ebe Jones, " nid y fi ydi'r dyn i 'neud peth felly," ac aeth yn syth i'r Brown Cow—rhoddodd lyfr yr apêl yn y tân a'r saith swllt mewn cylchrediad masnachol, ac aeth adref gyda chydwybod dawel.
Dywedai rhai mai i'w dueddiadau astronomyddol y gellid priodoli'r arfer oedd gan Jones i aros allan yn hwyr y nos. Ac yr oedd уг arferiad hwn wedi mynd yn fath o ail natur ynddo, fel na allai ymryddhau oddi wrtho hyd yn oed ar nosweithiau tywyll pryd na byddai sêr na lloer yn y golwg. Credai eraill a dybiai eu bod yn adnabod Jones yn dda, mai ei ofal am eiddo ei gymdogion a'i cadwai allan hyd oriau mân y bore, a'i fod fel gwir gymwynaswr i gymdeithas yn rhoddi ei wasanaeth yn rhad ac am ddim i geisio glanhau'r gymdogaeth oddi wrth garn-lladron oedd yn prowla yn y tywyllwch. Ni chymerai Jones y credyd hwn iddo ef ei hun, oblegid nid oedd un amser yn gwneud bost o'i wasanaeth ewyllysgar. Ar yr un pryd mae'n rhaid nad oedd ei gymdogion mwyaf cefnog heb ystyried ei wyliadwriaethau oblegid, er esiampl, ni fyddai Jones un amser yn brin o gwningen, neu hwyaden dew i'w gwerthu am bris isel i'w gyfeillion—pethau a roddid iddo, yn ddiamau, gan ŵr y Plas am y gwasanaeth a grybwyllwyd. Ar adeg etholiad profai Jones ei hun yn ŵr defnyddiol iawn fel arweinydd y bobl, ac os digwyddai mewn cyfarfod cyhoeddus fod rhyw un yn aflonyddu ac yn gwrthod cymryd ei argyhoeddi gan resymau teg, a thybied o'r blaid arall mai allan oedd y lle gorau i'r