Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/221

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mi'ch credaf," ebe'r Capten, "just y peth y buaswn yn ei ddisgwyl oddi wrth ŵr o ddiwylliant a dysg fel chwi. Ar yr un pryd, mae'n bosibl, yn wir, yn eithaf naturiol, i rai fel chwi sydd yn ymdroi gyda phethau ysbrydol, ac heb ymyrraeth rhyw lawer â phethau'r byd a'r bywyd hwn—mae'n bosibl, meddaf, i ni, yr antur—iaethwyr yma, wneud argraff arnoch mai creaduriaid y byd a'r bywyd hwn yn unig ydym—hynny ydyw, mai pobl ydym â'n bryd yn hollol ar wneud arian. Ond nid dyna'r ffaith, syr,—mae ochr arall i'n natur, ac mi fentraf ddweud bod i ddarganfyddiadau yn y byd natur—iol, fel yn y byd moesol ac ysbrydol, eu charm, a bod y charm lawn cymaint yn y darganfyddiad ag yn yr hyn a ddarganfyddir. Er enghraifft (gadawodd Miss Trefor yr ystafell wedi diflasu), meddylier am Syr Isaac Newton—ni fuasai ei lawenydd yn llai pe darganfyddasai mai rhywbeth arall ac nid gravitation a barai i'r afal syrthio oddi ar y pren—y darganfyddiad ei hun oedd yn rhoi boddhad iddo—os nad ydwyf yn camgymryd. Yr un modd, syr, yn y case presennol; ac yn y peth hwn yr wyf yn mynegi fy nheimlad fy hun, ac, yr wyf yn credu, deimlad Mr. Huws a Mr. Denman—yn y case presennol, meddaf, nid yr unig bleser, nac ychwaith y mwyaf, ydyw y byddwn ryw ddydd yn feddiannol ar lawer o eiddo yr wyf yn addef bod pleser yn y drychfeddwl yna—ond, ac i mi siarad yn bersonol—mae'r pleser mwyaf yn y ffaith fod plwm—bydded fawr neu fach—wedi ei ddarganfod, yr hyn sydd yn gwirio fy rhag—ddywediad—sef fy mod yn sicr fod plwm yng Nghoed Madog. Neu, i mi ei roi mewn ffurf arall, meddyliwch yn awr, pe cawn fy newis, naill ai i berthynas i mi, dyweder oblegid nid wyf ond yn tybio case—fod i berthynas adael i mi yn ei ewyllys ugain mil o bunnau, neu ynte i mi gael yng Nghoed Madog werth pymtheng mil o bunnau o blwm, pa un a ddewiswn? Yr olaf, syr, heb dreulio munud uwch ben y cwestiwn. Gallai hyn ymddangos yn ynfyd i ryw bobl, ond yr wyf yn credu fy mod yn